1 Thesaloniaid 4:13-18
1 Thesaloniaid 4:13-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr ydym am ichwi wybod, gyfeillion, am y rhai sydd yn huno, rhag ichwi fod yn drallodus, fel y rhelyw sydd heb ddim gobaith. Os ydym yn credu i Iesu farw ac atgyfodi, felly hefyd bydd Duw, gydag ef, yn dod â'r rhai a hunodd drwy Iesu. Hyn yr ydym yn ei ddweud wrthych ar air yr Arglwydd: ni fyddwn ni, y rhai byw a adewir hyd ddyfodiad yr Arglwydd, yn rhagflaenu dim ar y rhai sydd wedi huno. Oherwydd pan floeddir y gorchymyn, pan fydd yr archangel yn galw ac utgorn Duw yn seinio, bydd yr Arglwydd ei hun yn disgyn o'r nef; bydd y meirw yng Nghrist yn atgyfodi yn gyntaf, ac yna byddwn ni, y rhai byw a fydd wedi eu gadael, yn cael ein cipio i fyny gyda hwy yn y cymylau, i gyfarfod â'r Arglwydd yn yr awyr; ac felly byddwn gyda'r Arglwydd yn barhaus. Calonogwch eich gilydd, felly, â'r geiriau hyn.
1 Thesaloniaid 4:13-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A nawr, ffrindiau, dŷn ni am i chi ddeall beth sy’n digwydd i Gristnogion ar ôl iddyn nhw farw. Does dim rhaid i chi alaru fel mae pawb arall yn galaru – does ganddyn nhw ddim gobaith. Dŷn ni’n credu bod Iesu wedi marw ac wedi cael ei godi yn ôl yn fyw eto. Felly dŷn ni’n credu hefyd y bydd Duw yn dod â’r Cristnogion hynny sydd wedi marw yn ôl gyda Iesu pan fydd e’n dod yn ôl. Yr Arglwydd ei hun sydd wedi dweud: fyddwn ni sy’n dal yn fyw, pan ddaw’r Arglwydd Iesu yn ôl, ddim yn ennill y blaen ar y Cristnogion hynny sydd eisoes wedi marw. Bydd yr Arglwydd ei hun yn dod i lawr o’r nefoedd. Bydd Duw’n rhoi’r gorchymyn, bydd y prif angel yn cyhoeddi’n uchel a bydd utgorn yn seinio. Bydd y Cristnogion sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw gyntaf. Yna byddwn ni sy’n dal yn fyw ar y ddaear yn cael ein cipio i fyny gyda nhw yn y cymylau i gyfarfod â’r Arglwydd yn yr awyr. Wedyn byddwn ni i gyd gyda’r Arglwydd am byth. Felly calonogwch eich gilydd gyda’r geiriau hyn.
1 Thesaloniaid 4:13-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond ni ewyllysiwn, frodyr, i chwi fod heb wybod am y rhai a hunasant, na thristaoch, megis eraill y rhai nid oes ganddynt obaith. Canys os ydym yn credu farw Iesu, a’i atgyfodi; felly y rhai a hunasant yn yr Iesu, a ddwg Duw hefyd gydag ef. Canys hyn yr ydym yn ei ddywedyd wrthych yng ngair yr Arglwydd, na bydd i ni’r rhai byw, y rhai a adewir hyd ddyfodiad yr Arglwydd, ragflaenu’r rhai a hunasant. Oblegid yr Arglwydd ei hun a ddisgyn o’r nef gyda bloedd, â llef yr archangel, ac ag utgorn Duw: a’r meirw yng Nghrist a gyfodant yn gyntaf: Yna ninnau’r rhai byw, y rhai a adawyd, a gipir i fyny gyda hwynt yn y cymylau, i gyfarfod â’r Arglwydd yn yr awyr: ac felly y byddwn yn wastadol gyda’r Arglwydd. Am hynny diddenwch eich gilydd â’r ymadroddion hyn.