1 Timotheus 2:1-2
1 Timotheus 2:1-2 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly, o flaen popeth arall dw i’n pwyso arnoch chi i weddïo dros bawb – pledio a gweddïo’n daer; gofyn a diolch i Dduw ar eu rhan nhw. Dylech chi wneud hynny dros frenhinoedd a phawb arall mewn safle o awdurdod, er mwyn i ni gael heddwch a llonydd i fyw bywydau duwiol a gweddus.
1 Timotheus 2:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn y lle cyntaf, felly, yr wyf yn annog bod ymbiliau, gweddïau, deisyfiadau a diolchiadau yn cael eu hoffrymu dros bawb, dros frenhinoedd a phawb sydd mewn awdurdod, inni gael byw ein bywyd yn dawel a heddychlon, yn llawn duwioldeb a gwedduster.
1 Timotheus 2:1-2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Cynghori yr ydwyf am hynny, ymlaen pob peth, fod ymbiliau, gweddïau, deisyfiadau, a thalu diolch, dros bob dyn; Dros frenhinoedd, a phawb sydd mewn goruchafiaeth; fel y gallom ni fyw yn llonydd ac yn heddychol mewn pob duwioldeb ac onestrwydd.