2 Cronicl 1:7-12
2 Cronicl 1:7-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y noson honno ymddangosodd Duw i Solomon a dweud wrtho, “Gofyn beth bynnag a fynni gennyf.” Dywedodd Solomon wrth Dduw, “Buost yn ffyddlon iawn i'm tad Dafydd, a gwnaethost fi yn frenin yn ei le. Yn awr, ARGLWYDD Dduw, cyflawner dy addewid i'm tad Dafydd, oherwydd gwnaethost fi'n frenin ar bobl mor aneirif â llwch y ddaear. Yn awr, rho i mi ddoethineb a deall i arwain y bobl hyn, oherwydd pwy a all farnu dy bobl, sydd mor niferus?” Meddai Duw wrth Solomon, “Gan mai dyma dy ddymuniad, ac na ofynnaist am gyfoeth na golud nac anrhydedd, nac einioes dy elynion, na hir oes i ti dy hun, ond yn hytrach am ddoethineb a deall i farnu fy mhobl y gwneuthum di'n frenin arnynt, fe roddir doethineb a deall iti. Rhoddaf iti hefyd gyfoeth, golud ac anrhydedd na fu eu tebyg gan y brenhinoedd o'th flaen, ac na fydd gan y rhai ar dy ôl.”
2 Cronicl 1:7-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Y noson honno dyma Duw yn dod at Solomon a gofyn iddo, “Beth wyt ti eisiau i mi ei roi i ti?” A dyma Solomon yn ateb, “Roeddet ti’n garedig iawn at Dafydd fy nhad, ac rwyt wedi fy ngwneud i yn frenin yn ei le. O, ARGLWYDD Dduw, gwna i’r addewid honno wnest ti i Dafydd fy nhad ddod yn wir. Ti wedi fy ngwneud i’n frenin ar gymaint o bobl ag sydd o lwch ar y ddaear. Rho i mi’r ddoethineb a’r wybodaeth sydd ei angen i lywodraethu’r bobl yma’n iawn. Fel arall, pa obaith sydd i unrhyw un lywodraethu cenedl mor fawr?” A dyma Duw’n ateb Solomon, “Am mai dyna rwyt ti eisiau, y ddoethineb a’r wybodaeth i lywodraethu’r bobl yma’n iawn – a dy fod ddim wedi gofyn am feddiannau, cyfoeth, ac anrhydedd, neu i’r rhai sy’n dy gasáu gael eu lladd; wnest ti ddim hyd yn oed gofyn am gael byw yn hir – dw i’n mynd i roi doethineb a gwybodaeth i ti. Ond dw i hefyd yn mynd i roi mwy o gyfoeth, meddiannau, ac anrhydedd i ti nag unrhyw frenin ddaeth o dy flaen neu ddaw ar dy ôl.”
2 Cronicl 1:7-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y noson honno yr ymddangosodd DUW i Solomon, ac y dywedodd wrtho ef, Gofyn yr hyn a roddaf i ti. A dywedodd Solomon wrth DDUW, Ti a wnaethost fawr drugaredd â’m tad Dafydd, ac a wnaethost i mi deyrnasu yn ei le ef. Yn awr, O ARGLWYDD DDUW, sicrhaer dy air wrth fy nhad Dafydd; canys gwnaethost i mi deyrnasu ar bobl mor lluosog â llwch y ddaear. Yn awr dyro i mi ddoethineb a gwybodaeth, fel yr elwyf allan, ac y delwyf i mewn o flaen y bobl hyn: canys pwy a ddichon farnu dy bobl luosog hyn? A dywedodd DUW wrth Solomon, Oherwydd bod hyn yn dy feddwl di, ac na ofynnaist na chyfoeth, na golud, na gogoniant, nac einioes dy elynion, ac na ofynnaist lawer o ddyddiau chwaith; eithr gofyn ohonot i ti ddoethineb, a gwybodaeth, fel y bernit fy mhobl y’th osodais yn frenin arnynt: Doethineb a gwybodaeth a roddwyd i ti, cyfoeth hefyd, a golud, a gogoniant, a roddaf i ti, y rhai ni bu eu cyffelyb gan y brenhinoedd a fu o’th flaen di, ac ni bydd y cyffelyb i neb ar dy ôl di.