2 Cronicl 15:1-2
2 Cronicl 15:1-2 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma ysbryd Duw yn dod ar Asareia fab Oded, a dyma fe’n mynd at y Brenin Asa a dweud: “Gwrandwch arna i, Asa a phobl Jwda a Benjamin i gyd. Bydd yr ARGLWYDD gyda chi tra dych chi’n ffyddlon iddo fe. Bydd e’n ymateb pan fyddwch chi’n ei geisio. Ond os byddwch chi’n troi’ch cefn arno, bydd e’n troi ei gefn arnoch chi.
2 Cronicl 15:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Daeth ysbryd Duw ar Asareia fab Oded, ac fe aeth allan i gyfarfod Asa, a dweud wrtho, “O Asa, a holl Jwda a Benjamin, gwrandewch arnaf fi. Bydd yr ARGLWYDD gyda chwi os byddwch chwi gydag ef. Os ceisiwch ef, fe'i cewch; ond os cefnwch arno, bydd yntau yn cefnu arnoch chwithau.
2 Cronicl 15:1-2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac ysbryd DUW a ddaeth ar Asareia mab Oded. Ac efe a aeth allan o flaen Asa, ac a ddywedodd wrtho, O Asa, a holl Jwda, a Benjamin, gwrandewch fi; Yr ARGLWYDD sydd gyda chwi, tra fyddoch gydag ef; ac os ceisiwch ef, chwi a’i cewch ef: ond os gwrthodwch chwi ef, yntau a’ch gwrthyd chwithau.