2 Cronicl 20:15
2 Cronicl 20:15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a ddywedodd, Gwrandewch holl Jwda, a thrigolion Jerwsalem, a thithau frenin Jehosaffat, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrthych chwi, Nac ofnwch, ac na ddigalonnwch rhag y dyrfa fawr hon: canys nid eiddoch chwi y rhyfel, eithr eiddo DDUW.
Rhanna
Darllen 2 Cronicl 202 Cronicl 20:15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma fe’n dweud, “Gwrandwch bobl Jwda, a chi sy’n byw yn Jerwsalem, a’r Brenin Jehosaffat. Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthoch chi, ‘Peidiwch bod ag ofn a pheidiwch panicio am y fyddin fawr yma. Brwydr Duw ydy hon nid eich brwydr chi.
Rhanna
Darllen 2 Cronicl 202 Cronicl 20:15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
a dywedodd, “Gwrandewch, holl Jwda a thrigolion Jerwsalem ynghyd â'r brenin Jehosaffat. Y mae'r ARGLWYDD yn dweud wrthych am beidio ag ofni na digalonni o achos y fintai fawr yma, oherwydd brwydr Duw yw hon, nid eich brwydr chwi.
Rhanna
Darllen 2 Cronicl 20