Logo Ap Beibl
Eicon Chwilio

2 Cronicl 20:17-18 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

2 Cronicl 20:17-18 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Fyddwch chi ddim yn gorfod ymladd y frwydr yma. Byddwch yn sefyll lle rydych chi, ac yn gweld yr ARGLWYDD yn eich achub, bobl Jwda a Jerwsalem. Peidiwch bod ag ofn na phanicio. Ewch allan yn eu herbyn yfory; mae’r ARGLWYDD gyda chi!’” Yna dyma Jehosaffat yn ymgrymu â’i wyneb ar lawr, a dyma bobl Jwda a’r rhai oedd yn byw yn Jerwsalem yn plygu i lawr i addoli’r ARGLWYDD.

2 Cronicl 20:17-18 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Ni fydd raid i chwi ymladd yn y frwydr hon; safwch yn llonydd yn eich lle, ac fe welwch y fuddugoliaeth a rydd yr ARGLWYDD ichwi, O Jwda a Jerwsalem. Peidiwch ag ofni na digalonni; ewch allan yn eu herbyn yfory, a bydd yr ARGLWYDD gyda chwi.” Yna fe ymgrymodd Jehosaffat i'r llawr, a syrthiodd holl Jwda a thrigolion Jerwsalem o flaen yr ARGLWYDD a'i addoli.

2 Cronicl 20:17-18 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Nid rhaid i chwi ymladd yn y rhyfel hwn: sefwch yn llonydd, a gwelwch ymwared yr ARGLWYDD tuag atoch, O Jwda a Jerwsalem: nac ofnwch, ac na ddigalonnwch: ewch yfory allan yn eu herbyn hwynt, a’r ARGLWYDD fydd gyda chwi. A Jehosaffat a ymgrymodd i lawr ar ei wyneb: holl Jwda hefyd a holl drigolion Jerwsalem a syrthiasant gerbron yr ARGLWYDD, gan addoli yr ARGLWYDD.