2 Cronicl 20:20-30
2 Cronicl 20:20-30 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yn gynnar y bore wedyn dyma nhw’n martsio allan i gyfeiriad Anialwch Tecoa. Pan oedden nhw ar fin gadael dyma Jehosaffat yn sefyll a dweud, “Gwrandwch arna i bobl Jwda, a chi sy’n byw yn Jerwsalem. Os gwnewch chi drystio’r ARGLWYDD eich Duw, byddwch yn iawn. Credwch beth ddwedodd ei broffwydi a byddwch yn llwyddo.” Ar ôl trafod gyda’r bobl dyma fe’n gosod cerddorion o flaen y fyddin i addoli’r ARGLWYDD sydd mor hardd yn ei gysegr, a chanu, “Diolchwch i’r ARGLWYDD; Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!” Wrth iddyn nhw ddechrau gweiddi a moli dyma’r ARGLWYDD yn cael grwpiau i ymosod ar fyddinoedd Ammon, Moab a Mynydd Seir oedd yn dod i ryfela yn erbyn Jwda, a’u trechu nhw. Dyma filwyr Ammon a Moab yn ymosod ar filwyr Mynydd Seir a’u dinistrio nhw’n llwyr. Ar ôl iddyn nhw wneud hynny dyma nhw’n ymosod ar ei gilydd. Erbyn i fyddin Jwda gyrraedd y tŵr gwylio sy’n edrych allan i’r anialwch, y cwbl oedd ar ôl o’r fyddin fawr oedd cyrff marw ar lawr. Roedden nhw i gyd wedi’u lladd! Dyma Jehosaffat a’i filwyr yn mynd i gasglu beth allen nhw, a chael cymaint o offer, dillad a phethau gwerthfawr, roedd gormod ohono i’w gario! Cymerodd dri diwrnod cyfan iddyn nhw gasglu’r cwbl! Ar y pedwerydd diwrnod dyma pawb yn casglu at ei gilydd yn Nyffryn Beracha i addoli’r ARGLWYDD (Dyna pam mae’r lle yn cael ei alw yn Ddyffryn Beracha – sef Dyffryn y Fendith – hyd heddiw.) Yna dyma Jehosaffat yn arwain y dynion i gyd yn ôl i Jerwsalem yn llawen. Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi rheswm da iddyn nhw ddathlu! Dyma nhw’n mynd i mewn i’r ddinas i sŵn nablau, telynau ac utgyrn, a dyma nhw’n mynd yn syth i deml yr ARGLWYDD. Roedd gan y gwledydd o’u cwmpas ofn Duw ar ôl clywed sut roedd yr ARGLWYDD wedi ymladd yn erbyn gelynion Israel. Cafodd teyrnas Jehosaffat heddwch; roedd Duw wedi rhoi heddwch iddo o bob cyfeiriad.
2 Cronicl 20:20-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Felly, codasant yn fore a mynd i anialwch Tecoa. Fel yr oeddent yn cychwyn, safodd Jehosaffat a dweud, “Gwrandewch arnaf fi, Jwda a thrigolion Jerwsalem. Ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD eich Duw, ac fe fyddwch yn ddiogel; credwch yn ei broffwydi, ac fe lwyddwch.” Wedi ymgynghori â'r bobl, penododd gantorion i foli'r ARGLWYDD, ac i ganu mawl i brydferthwch ei sancteiddrwydd, wrth fynd allan ar flaen y fyddin. Dywedasant, “Diolchwch i'r ARGLWYDD, oherwydd y mae ei gariad hyd byth.” Fel yr oeddent yn dechrau canu a moli, gosododd yr ARGLWYDD gynllwyn yn erbyn yr Ammoniaid a'r Moabiaid a gwŷr Mynydd Seir, a oedd yn ymosod ar Jwda, a chawsant eu gorchfygu. Trodd yr Ammoniaid a'r Moabiaid i ymosod ar drigolion Mynydd Seir, a'u difa'n llwyr; ac wedi iddynt eu difodi hwy aethant ymlaen i ddifetha'i gilydd. Pan gyrhaeddodd Jwda wylfa ger yr anialwch, a throi i edrych ar y fintai, gwelsant gyrff y meirw ar y llawr ym mhobman; nid oedd neb wedi dianc. Daeth Jehosaffat a'i filwyr i'w hysbeilio, a chawsant arnynt lawer o olud a gwisgoedd, ac eiddo gwerthfawr. Yr oedd ganddynt fwy o ysbail nag y gallent ei gario, ac am fod cymaint ohono buont am dridiau yn ei gludo. Ar y pedwerydd dydd daethant ynghyd i ddyffryn Beracha; am iddynt fendithio'r ARGLWYDD yno, gelwir y lle yn ddyffryn Beracha hyd heddiw. Yna dychwelodd holl filwyr Jwda a Jerwsalem dan arweiniad Jehosaffat i Jerwsalem mewn llawenydd, am i'r ARGLWYDD roi buddugoliaeth iddynt dros eu gelynion; daethant i dŷ'r ARGLWYDD yn Jerwsalem gyda nablau, telynau a thrwmpedau. Daeth ofn Duw ar holl deyrnasoedd y gwledydd pan glywsant fod yr ARGLWYDD wedi ymladd yn erbyn gelynion Israel. Felly cafodd teyrnas Jehosaffat heddwch, a rhoddodd ei Dduw lonydd iddo oddi wrth bawb o'i amgylch.
2 Cronicl 20:20-30 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A hwy a gyfodasant yn fore, ac a aethant i anialwch Tecoa: ac wrth fyned ohonynt, Jehosaffat a safodd, ac a ddywedodd, Gwrandewch fi, O Jwda, a thrigolion Jerwsalem; Credwch yn yr ARGLWYDD eich DUW, a chwi a sicrheir; coeliwch ei broffwydi ef, a chwi a ffynnwch. Ac efe a ymgynghorodd â’r bobl, ac a osododd gantorion i’r ARGLWYDD, a rhai i foliannu prydferthwch sancteiddrwydd, pan aent allan o flaen y rhyfelwyr; ac i ddywedyd, Clodforwch yr ARGLWYDD, oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd. Ac yn yr amser y dechreuasant hwy y gân a’r moliant, y rhoddodd yr ARGLWYDD gynllwynwyr yn erbyn meibion Ammon, Moab, a thrigolion mynydd Seir, y rhai oedd yn dyfod yn erbyn Jwda; a hwy a laddasant bawb ei gilydd. Canys meibion Ammon a Moab a gyfodasant yn erbyn trigolion mynydd Seir, i’w difrodi, ac i’w difetha hwynt: a phan orffenasant hwy drigolion Seir, hwy a helpiasant ddifetha pawb ei gilydd. A phan ddaeth Jwda hyd Mispa yn yr anialwch, hwy a edrychasant ar y dyrfa, ac wele hwynt yn gelaneddau meirwon yn gorwedd ar y ddaear, ac heb un dihangol. A phan ddaeth Jehosaffat a’i bobl i ysglyfaethu eu hysbail hwynt, hwy a gawsant yn eu mysg hwy lawer o olud, gyda’r cyrff meirw, a thlysau dymunol, yr hyn a ysglyfaethasant iddynt, beth anfeidrol: a thridiau y buant yn ysglyfaethu yr ysbail; canys mawr oedd. Ac ar y pedwerydd dydd yr ymgynullasant i ddyffryn y fendith; canys yno y bendithiasant yr ARGLWYDD: am hynny y gelwir enw y fan honno Dyffryn y fendith, hyd heddiw. Yna y dychwelodd holl wŷr Jwda a Jerwsalem, a Jehosaffat yn flaenor iddynt, i fyned yn eu hôl i Jerwsalem mewn llawenydd; canys yr ARGLWYDD a roddasai lawenydd iddynt hwy ar eu gelynion. A hwy a ddaethant i Jerwsalem â nablau, a thelynau, ac utgyrn, i dŷ yr ARGLWYDD. Ac ofn DUW oedd ar holl deyrnasoedd y ddaear, pan glywsant hwy fel y rhyfelasai yr ARGLWYDD yn erbyn gelynion Israel. Felly teyrnas Jehosaffat a gafodd lonydd: canys ei DDUW a roddodd iddo lonyddwch o amgylch.