2 Cronicl 30:9
2 Cronicl 30:9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Os gwnewch chi droi’n ôl at yr ARGLWYDD, bydd y rhai sydd wedi cymryd eich plant a’ch perthnasau’n gaeth yn dangos trugaredd arnyn nhw. Byddan nhw’n eu hanfon yn ôl i’r wlad yma. Mae’r ARGLWYDD eich Duw mor garedig a thrugarog. Fydd e ddim yn eich gwrthod chi os trowch chi’n ôl ato fe.”
2 Cronicl 30:9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd os dychwelwch at yr ARGLWYDD, caiff eich pobl a'ch plant drugaredd gan eu caethgludwyr, a dychwelyd i'r wlad hon; oblegid y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn rasol a thrugarog, ac ni thry ei wyneb oddi wrthych os dychwelwch ato.”
2 Cronicl 30:9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys os dychwelwch chwi at yr ARGLWYDD, eich brodyr chwi a’ch meibion a gânt drugaredd gerbron y rhai a’u caethgludodd hwynt, fel y dychwelont i’r wlad yma: oblegid grasol a thrugarog yw yr ARGLWYDD eich DUW, ac ni thry efe ei wyneb oddi wrthych, os dychwelwch ato ef.