2 Cronicl 32:7-8
2 Cronicl 32:7-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Byddwch yn gryf a dewr. Peidiwch ag ofni na digalonni o flaen brenin Asyria a'i holl fintai. Y mae gennym ni fwy nag sydd ganddo ef. Gallu dynol sydd ganddo ef, ond y mae yr ARGLWYDD ein Duw gyda ni i'n cynorthwyo ac i ymladd ein brwydrau.” Ac fe ymddiriedodd y bobl yng ngeiriau Heseceia brenin Jwda.
2 Cronicl 32:7-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Byddwch yn gryf a dewr! Peidiwch bod ag ofn na phanicio am fod brenin Asyria a’i fyddin ar eu ffordd. Mae yna Un gyda ni sy’n gryfach na’r rhai sydd gyda fe. Dim ond cryfder dynol sydd ganddo fe, ond mae’r ARGLWYDD ein Duw gyda ni i’n helpu ni ac i ymladd ein brwydrau!” Roedd pawb yn teimlo’n well ar ôl clywed geiriau’r brenin.
2 Cronicl 32:7-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ymwrolwch, ac ymgadarnhewch; nac ofnwch, ac na ddigalonnwch rhag brenin Asyria, na rhag yr holl dyrfa sydd gydag ef: canys y mae gyda ni fwy na chydag ef. Gydag ef y mae braich cnawdol; ond yr ARGLWYDD ein DUW sydd gyda ni, i’n cynorthwyo, ac i ryfela ein rhyfeloedd. A’r bobl a hyderasant ar eiriau Heseceia brenin Jwda.