2 Cronicl 33:12-13
2 Cronicl 33:12-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn ei gyfyngder gweddïodd Manasse ar yr ARGLWYDD ei Dduw, a'i ddarostwng ei hun o flaen Duw ei hynafiaid. Pan weddïodd arno, trugarhaodd Duw wrtho; gwrandawodd ar ei weddi a dod ag ef yn ôl i Jerwsalem i'w frenhiniaeth. Yna gwybu Manasse mai'r ARGLWYDD oedd Dduw.
2 Cronicl 33:12-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yng nghanol y creisis dyma fe’n gweddïo ar yr ARGLWYDD ei Dduw, ac edifarhau go iawn o flaen Duw ei hynafiaid. Clywodd yr ARGLWYDD ei weddi a gwrando ar ei gais, a dod ag e’n ôl i fod yn frenin yn Jerwsalem. A dyna sut daeth Manasse i ddeall mai’r ARGLWYDD oedd Dduw.
2 Cronicl 33:12-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan oedd gyfyng arno ef, efe a weddïodd gerbron yr ARGLWYDD ei DDUW, ac a ymostyngodd yn ddirfawr o flaen DUW ei dadau, Ac a weddïodd arno ef: ac efe a fu fodlon iddo, ac a wrandawodd ei ddymuniad ef, ac a’i dug ef drachefn i Jerwsalem i’w frenhiniaeth. Yna y gwybu Manasse mai yr ARGLWYDD oedd DDUW.