2 Corinthiaid 1:3-11
2 Corinthiaid 1:3-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, y Tad sy'n trugarhau a'r Duw sy'n rhoi pob diddanwch. Y mae'n ein diddanu ym mhob gorthrymder, er mwyn i ninnau, trwy'r diddanwch a gawn ganddo ef, allu diddanu'r rhai sydd dan bob math o orthrymder. Oherwydd fel y mae dioddefiadau Crist yn gorlifo hyd atom ni, felly hefyd trwy Grist y mae ein diddanwch yn gorlifo. Os gorthrymir ni, er mwyn eich diddanwch chwi a'ch iachawdwriaeth y mae hynny; neu os diddenir ni, er mwyn eich diddanwch chwi y mae hynny hefyd, i'ch nerthu i ymgynnal dan yr un dioddefiadau ag yr ydym ni yn eu dioddef. Y mae sail sicr i'n gobaith amdanoch, oherwydd fe wyddom fod i chwi gyfran yn y diddanwch yn union fel y mae gennych gyfran yn y dioddefiadau. Yr ydym am i chwi wybod, gyfeillion, am y gorthrymder a ddaeth i'n rhan yn Asia, iddo ein trechu a'n llethu mor llwyr nes inni anobeithio am gael byw hyd yn oed. Do, teimlasom ynom ein hunain ein bod wedi derbyn dedfryd marwolaeth; yr amcan oedd ein cadw rhag ymddiried ynom ein hunain, ond yn y Duw sy'n cyfodi'r meirw. Gwaredodd ef ni gynt oddi wrth y fath berygl marwol, ac fe'n gwared eto; ynddo ef y mae ein gobaith. Fe'n gwared eto, wrth i chwithau ymuno i'n cynorthwyo â'ch gweddi, ac felly bydd ein gwaredigaeth raslon, trwy weddi llawer, yn destun diolch gan lawer ar ein rhan.
2 Corinthiaid 1:3-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Clod i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! Fe ydy’r Tad sy’n tosturio a’r Duw sy’n cysuro. Mae’n ein cysuro ni yng nghanol ein holl drafferthion, felly dŷn ni yn ein tro yn gallu cysuro pobl eraill. Dŷn ni’n eu cysuro nhw drwy rannu am y ffordd mae Duw’n ein cysuro ni. Po fwya dŷn ni’n rhannu profiad y Meseia, mwya dŷn ni’n cael ein cysuro ganddo. Dŷn ni’n gorfod wynebu trafferthion er mwyn i chi gael eich cysuro a’ch cadw’n saff. Pan dŷn ni’n cael ein cysuro, dylai hynny hefyd fod yn gysur i chi, a’ch helpu chi i ddal ati pan fyddwch chi’n dioddef yr un fath â ni. A dŷn ni’n sicr y byddwch chi, wrth ddioddef yr un fath â ni, yn cael eich cysuro gan Dduw yr un fath â ni hefyd. Dŷn ni eisiau i chi ddeall ffrindiau annwyl, mor galed mae pethau wedi bod arnon ni yn nhalaith Asia. Roedd y pwysau yn ormod o lawer i ni ei ddal yn ein nerth ein hunain. Roedd yn ein llethu ni! Roedden ni’n meddwl ei bod hi ar ben arnon ni, a’n bod ni wir yn mynd i farw. Ond pwrpas y cwbl oedd i ni ddysgu trystio Duw yn lle trystio ni’n hunain. Fe ydy’r Duw sy’n dod â’r meirw yn ôl yn fyw! Mae wedi’n hachub ni y tro yma, a bydd yn ein hachub ni eto. A dŷn ni’n gwbl hyderus y bydd yn dal ati i wneud hynny tra byddwch chi’n ein helpu ni drwy weddïo droson ni. Wedyn bydd lot fawr o bobl yn diolch i Dduw am fod mor garedig tuag aton ni, yn ateb gweddïau cymaint o’i bobl.
2 Corinthiaid 1:3-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Bendigedig fyddo Duw, a Thad ein Harglwydd ni Iesu Grist, Tad y trugareddau, a Duw pob diddanwch; Yr hwn sydd yn ein diddanu ni yn ein holl orthrymder, fel y gallom ninnau ddiddanu’r rhai sydd mewn dim gorthrymder, trwy’r diddanwch â’r hwn y’n diddenir ni ein hunain gan Dduw. Oblegid fel y mae dioddefiadau Crist yn amlhau ynom ni; felly trwy Grist y mae ein diddanwch ni hefyd yn amlhau. A pha un bynnag ai ein gorthrymu yr ydys, er diddanwch a iachawdwriaeth i chwi y mae, yr hon a weithir trwy ymaros dan yr un dioddefiadau, y rhai yr ydym ninnau yn eu dioddef; ai ein diddanu yr ydys, er diddanwch a iachawdwriaeth i chwi y mae hynny. Ac y mae ein gobaith yn sicr amdanoch; gan i ni wybod, mai megis yr ydych yn gyfranogion o’r dioddefiadau, felly y byddwch hefyd o’r diddanwch. Canys ni fynnem i chwi fod heb wybod, frodyr, am ein cystudd a ddaeth i ni yn Asia, bwyso arnom yn ddirfawr uwchben ein gallu, hyd onid oeddem yn amau cael byw hefyd. Eithr ni a gawsom ynom ein hunain farn angau, fel na byddai i ni ymddiried ynom ein hunain, ond yn Nuw, yr hwn sydd yn cyfodi’r meirw: Yr hwn a’n gwaredodd ni oddi wrth gyfryw ddirfawr angau, ac sydd yn ein gwaredu; yn yr hwn yr ydym yn gobeithio y gwared ni hefyd rhag llaw: A chwithau hefyd yn cydweithio drosom mewn gweddi, fel, am y rhoddiad a rodded i ni oherwydd llawer, y rhodder diolch gan lawer drosom.