2 Brenhinoedd 22:19
2 Brenhinoedd 22:19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Am dy fod ti wedi teimlo i’r byw ac edifarhau pan glywaist ti fy mod i wedi rhybuddio’r lle yma, ac y byddwn i’n eu gwneud nhw’n esiampl o bobl wedi’u melltithio; am i ti rwygo dy ddillad ac wylo o mlaen i, dw i wedi gwrando,” – yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.
2 Brenhinoedd 22:19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Am i'th galon dyneru, ac iti ymostwng o flaen yr ARGLWYDD pan glywaist fi'n dweud am y lle hwn a'i drigolion, y byddai'n ddifrod ac yn felltith, ac am iti rwygo dy ddillad ac wylo o'm blaen, yr wyf finnau wedi gwrando, medd yr ARGLWYDD.
2 Brenhinoedd 22:19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oblegid i’th galon feddalhau, ac i tithau ymostwng o flaen yr ARGLWYDD, pan glywaist yr hyn a leferais yn erbyn y lle hwn, ac yn erbyn ei drigolion, y byddent yn anghyfannedd ac yn felltith, ac am rwygo ohonot dy ddillad, ac wylo ger fy mron i; minnau hefyd a wrandewais, medd yr ARGLWYDD.