2 Pedr 3:11-12
2 Pedr 3:11-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Am fod popeth yn mynd i gael ei ddinistrio fel hyn, mae’n amlwg sut bobl ddylen ni fod! Dylen ni fyw bywydau glân sy’n rhoi Duw yn y canol, ac edrych ymlaen yn frwd i ddiwrnod Duw ddod. Dyna pryd fydd popeth yn yr awyr yn cael ei ddinistrio gan dân, a’r elfennau yn toddi yn y gwres.
2 Pedr 3:11-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gan fod yr holl bethau yma ar gael eu datod fel hyn, ystyriwch pa mor sanctaidd a duwiol y dylai eich ymarweddiad fod, a chwithau'n disgwyl am Ddydd Duw ac yn prysuro ei ddyfodiad, y Dydd pan ddatodir y nefoedd gan dân ac y toddir yr elfennau gan wres.
2 Pedr 3:11-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A chan fod yn rhaid i hyn i gyd ymollwng, pa ryw fath ddynion a ddylech chwi fod mewn sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb, Yn disgwyl ac yn brysio at ddyfodiad dydd Duw, yn yr hwn y nefoedd gan losgi a ymollyngant, a’r defnyddiau gan wir wres a doddant?