2 Samuel 11:2-3
2 Samuel 11:2-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Un prynhawn yr oedd Dafydd wedi codi o'i wely ac yn cerdded ar do'r palas. Oddi yno gwelodd wraig yn ymolchi, a hithau'n un brydferth iawn. Anfonodd Dafydd i holi pwy oedd y wraig, a chael yr ateb, “Onid Bathseba ferch Eliam, gwraig Ureia yr Hethiad, yw hi?”
2 Samuel 11:2-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yn hwyr un p’nawn, dyma Dafydd yn codi ar ôl bod yn gorffwys, a mynd i gerdded ar do fflat y palas. O’r fan honno dyma fe’n digwydd gweld gwraig yn ymolchi. Roedd hi’n wraig arbennig o hardd. Dyma Dafydd yn anfon rhywun i ddarganfod pwy oedd hi, a daeth hwnnw yn ôl gyda’r ateb, “Bathseba ferch Eliam, gwraig Wreia yr Hethiad, ydy hi.”
2 Samuel 11:2-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A bu ar brynhawngwaith gyfodi o Dafydd oddi ar ei wely, a rhodio ar nen tŷ y brenin: ac oddi ar y nen efe a ganfu wraig yn ymolchi; a’r wraig oedd deg iawn yr olwg. A Dafydd a anfonodd ac a ymofynnodd am y wraig: ac un a ddywedodd, Onid hon yw Bathseba merch Elïam, gwraig Ureias yr Hethiad?