2 Samuel 16:11-12
2 Samuel 16:11-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A dyma Dafydd yn dweud wrth Abishai a’i swyddogion, “Mae fy mab i fy hun yn ceisio fy lladd i! Meddyliwch! Mae gan y dyn yma o lwyth Benjamin lot mwy o reswm i fod eisiau gwneud hynny! Gadewch lonydd iddo regi os mai’r ARGLWYDD sydd wedi dweud wrtho am wneud hynny. Falle y bydd yr ARGLWYDD yn gweld mod i’n cael cam, ac yn gwneud da i mi yn lle’r holl felltithio yma.”
2 Samuel 16:11-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ychwanegodd Dafydd wrth Abisai a'i holl weision. “Edrychwch, y mae fy mab i fy hun yn ceisio fy mywyd; pa faint mwy y Benjaminiad hwn? Gadewch iddo felltithio, oherwydd yr ARGLWYDD sydd wedi dweud wrtho. Efallai y bydd yr ARGLWYDD yn edrych ar fy nghyni, ac yn gwneud daioni imi yn lle ei felltith ef heddiw.”
2 Samuel 16:11-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Dafydd a ddywedodd wrth Abisai, ac wrth ei holl weision, Wele fy mab, yr hwn a ddaeth allan o’m hymysgaroedd i, yn ceisio fy einioes: ac yn awr pa faint mwy y cais y Benjaminiad hwn? Gadewch iddo, a melltithied: canys yr ARGLWYDD a archodd iddo. Efallai yr edrych yr ARGLWYDD ar fy nghystudd i, ac y dyry yr ARGLWYDD i mi ddaioni am ei felltith ef y dydd hwn.