2 Samuel 18:9-10
2 Samuel 18:9-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yn ystod y frwydr dyma rai o ddynion Dafydd yn dod ar draws Absalom. Roedd yn reidio ar gefn ei ful. Wrth i’r mul fynd o dan ganghennau rhyw goeden fawr, dyma ben Absalom yn cael ei ddal yn y goeden. Aeth y mul yn ei flaen, a gadael Absalom yn hongian yn yr awyr. Gwelodd un o’r dynion beth ddigwyddodd a mynd i ddweud wrth Joab, “Dw i newydd weld Absalom yn hongian o goeden fawr.”
2 Samuel 18:9-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Digwyddodd dilynwyr Dafydd daro ar Absalom. Fel yr oedd Absalom yn marchogaeth ar ei ful, aeth hwnnw dan gangen derwen fawr; daliwyd pen Absalom yn y dderwen, a'i adael rhwng nef a daear wrth i'r mul oedd dano fynd yn ei flaen. Gwelodd rhywun ef, a dweud wrth Joab ei fod wedi gweld Absalom ynghrog mewn derwen.
2 Samuel 18:9-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac Absalom a gyfarfu â gweision Dafydd yn eu hwyneb. Ac Absalom oedd yn marchogaeth ar ful, a’r mul a aeth dan dewfrig derwen fawr, a’i ben ef a lynodd yn y dderwen: felly yr oedd efe rhwng y nefoedd a’r ddaear; a’r mul oedd dano ef a aeth ymaith. A rhyw un a ganfu hynny, ac a fynegodd i Joab, ac a ddywedodd, Wele, gwelais Absalom ynghrog mewn derwen.