2 Thesaloniaid 2:9-10
2 Thesaloniaid 2:9-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Sef yr hwn y mae ei ddyfodiad yn ôl gweithrediad Satan, gyda phob nerth, ac arwyddion, a rhyfeddodau gau, A phob dichell anghyfiawnder yn y rhai colledig; am na dderbyniasant gariad y gwirionedd, fel y byddent gadwedig.
2 Thesaloniaid 2:9-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan fydd yr un drwg yn dod, bydd yn gwneud gwaith Satan. Bydd ganddo’r nerth i wneud gwyrthiau syfrdanol, a rhyfeddodau ffug eraill. Bydd yn gwneud pob math o bethau drwg ac yn twyllo’r rhai sy’n mynd i ddistryw am eu bod nhw wedi gwrthod credu’r gwir fyddai’n eu hachub nhw.
2 Thesaloniaid 2:9-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bydd dyfodiad yr un digyfraith yn digwydd trwy weithrediad Satan; fe'i nodweddir gan bob math o nerth ac arwyddion a rhyfeddodau gau, a chan bob twyll anghyfiawn, i ddrygu'r rhai sydd ar lwybr colledigaeth am iddynt beidio â derbyn cariad at y gwirionedd a chael eu hachub.