2 Timotheus 3:16-17
2 Timotheus 3:16-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Duw sydd wedi ysbrydoli’r ysgrifau sanctaidd hynny i gyd, ac maen nhw’n dysgu beth sy’n wir i ni, yn cywiro syniadau anghywir, yn dangos beth dŷn ni’n ei wneud o’i le, a’n dysgu ni i fyw yn iawn. Felly mae gan bobl Dduw bopeth sydd ei angen iddyn nhw wneud pob math o bethau da.
Rhanna
Darllen 2 Timotheus 32 Timotheus 3:16-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae pob Ysgrythur wedi ei hysbrydoli gan Dduw ac yn fuddiol i hyfforddi, a cheryddu, a chywiro, a disgyblu mewn cyfiawnder. Felly y darperir pob un sy'n perthyn i Dduw â chyflawn ddarpariaeth ar gyfer pob math o weithredoedd da.
Rhanna
Darllen 2 Timotheus 32 Timotheus 3:16-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr holl ysgrythur sydd wedi ei rhoddi gan ysbrydoliaeth Duw, ac sydd fuddiol i athrawiaethu, i argyhoeddi, i geryddu, i hyfforddi mewn cyfiawnder: Fel y byddo dyn Duw yn berffaith, wedi ei berffeithio i bob gweithred dda.
Rhanna
Darllen 2 Timotheus 3