2 Timotheus 4:16-17
2 Timotheus 4:16-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ddaeth neb i’m cefnogi i yn yr achos llys cyntaf. Roedd pawb wedi troi’u cefnau arna i. Dw i ddim am i Dduw ddal y peth yn eu herbyn nhw. Ond roedd yr Arglwydd gyda mi yn rhoi nerth i mi gyhoeddi’r newyddion da yn llawn, er mwyn i’r holl bobl oedd yno o genhedloedd eraill ei glywed. Ces fy achub o afael y llew am y tro!
2 Timotheus 4:16-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn y gwrandawiad cyntaf o'm hamddiffyniad, ni safodd neb gyda mi; aeth pawb a'm gadael; peidied Duw â chyfrif hyn yn eu herbyn. Ond safodd yr Arglwydd gyda mi, a rhoddodd nerth imi, er mwyn, trwof fi, i'r pregethu gael ei gyflawni ac i'r holl Genhedloedd gael ei glywed; a chefais fy ngwaredu o enau'r llew.
2 Timotheus 4:16-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yn fy ateb cyntaf ni safodd neb gyda mi, eithr pawb a’m gadawsant: mi a archaf ar Dduw nas cyfrifer iddynt. Eithr yr Arglwydd a safodd gyda mi, ac a’m nerthodd; fel trwof fi y byddai’r pregethiad yn llawn hysbys, ac y clywai’r holl Genhedloedd: ac mi a waredwyd o enau y llew.