2 Timotheus 4:3-4
2 Timotheus 4:3-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’r amser yn dod pan fydd pobl ddim yn gallu goddef dysgeidiaeth dda. Byddan nhw’n dilyn eu chwantau eu hunain ac yn dewis pentwr o athrawon fydd ond yn dweud beth maen nhw eisiau ei glywed. Byddan nhw’n gwrthod beth sy’n wir ac yn dilyn straeon celwyddog.
Rhanna
Darllen 2 Timotheus 42 Timotheus 4:3-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd fe ddaw amser pan na fydd pobl yn goddef athrawiaeth iach ond yn dilyn eu chwantau eu hunain, ac yn crynhoi o'u cwmpas liaws o athrawon i oglais eu clustiau, gan droi oddi wrth y gwirionedd i wrando ar chwedlau.
Rhanna
Darllen 2 Timotheus 42 Timotheus 4:3-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys daw’r amser pryd na ddioddefont athrawiaeth iachus; eithr yn ôl eu chwantau eu hunain y pentyrrant iddynt eu hunain athrawon, gan fod eu clustiau yn merwino; Ac oddi wrth y gwirionedd y troant ymaith eu clustiau, ac at chwedlau y troant.
Rhanna
Darllen 2 Timotheus 4