Actau 16:14 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Actau 16:14 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Roedd un wraig yno o’r enw Lydia – gwraig o ddinas Thyatira oedd â busnes gwerthu brethyn porffor drud. Roedd hi’n un oedd yn addoli Duw. Wrth wrando, agorodd yr Arglwydd ddrws ei chalon hi, a dyma hi’n ymateb i neges Paul.
Rhanna
Actau 16 BNETActau 16:14 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yn gwrando yr oedd gwraig o'r enw Lydia, un oedd yn gwerthu porffor, o ddinas Thyatira, ac un oedd yn addoli Duw. Agorodd yr Arglwydd ei chalon hi i ddal ar y pethau yr oedd Paul yn eu dweud.
Rhanna
Actau 16 BCNDActau 16:14 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhyw wraig a’i henw Lydia, un yn gwerthu porffor, o ddinas y Thyatiriaid, yr hon oedd yn addoli Duw, a wrandawodd; yr hon yr agorodd yr Arglwydd ei chalon, i ddal ar y pethau a leferid gan Paul.
Rhanna
Actau 16 BWM