Actau 2:1-4
Actau 2:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ar ddiwrnod dathlu Gŵyl y Pentecost roedd pawb gyda’i gilydd eto. Ac yn sydyn dyma nhw’n clywed sŵn o’r awyr, fel gwynt cryf yn chwythu drwy’r ystafell lle roedden nhw’n cyfarfod. Ac wedyn roedd fel petai rhywbeth tebyg i fflamau tân yn dod i lawr ac yn gorffwys ar ben pob un ohonyn nhw. Dyma pawb oedd yno yn cael eu llenwi â’r Ysbryd Glân ac yn dechrau siarad mewn ieithoedd eraill. Yr Ysbryd oedd yn eu galluogi nhw i wneud hynny.
Actau 2:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ar ddydd cyflawni cyfnod y Pentecost yr oeddent oll ynghyd yn yr un lle, ac yn sydyn fe ddaeth o'r nef sŵn fel gwynt grymus yn rhuthro, ac fe lanwodd yr holl dŷ lle'r oeddent yn eistedd. Ymddangosodd iddynt dafodau fel o dân yn ymrannu ac yn eistedd un ar bob un ohonynt; a llanwyd hwy oll â'r Ysbryd Glân, a dechreusant lefaru â thafodau dieithr, fel yr oedd yr Ysbryd yn rhoi lleferydd iddynt.
Actau 2:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wedi dyfod dydd y Pentecost, yr oeddynt hwy oll yn gytûn yn yr un lle. Ac yn ddisymwth y daeth sŵn o’r nef, megis gwynt nerthol yn rhuthro, ac a lanwodd yr holl dŷ lle yr oeddynt yn eistedd. Ac ymddangosodd iddynt dafodau gwahanedig megis o dân, ac efe a eisteddodd ar bob un ohonynt. A hwy oll a lanwyd â’r Ysbryd Glân, ac a ddechreuasant lefaru â thafodau eraill, megis y rhoddes yr Ysbryd iddynt ymadrodd.