Actau 25:6-7
Actau 25:6-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phryd na thrigasai efe gyda hwy dros ddeng niwrnod, efe a aeth i waered i Cesarea; a thrannoeth efe a eisteddodd yn yr orsedd, ac a archodd ddwyn Paul ato. Ac wedi ei ddyfod, yr Iddewon a ddaethent o Jerwsalem i waered, a safasant o’i amgylch, ac a ddygasant lawer o achwynion trymion yn erbyn Paul, y rhai nis gallent eu profi.
Actau 25:6-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Buodd Ffestus yn Jerwsalem am ryw wyth i ddeg diwrnod, yna aeth yn ôl i Cesarea. Yna’r diwrnod wedyn cafodd Paul ei alw o flaen y llys. Yn y llys dyma’r Iddewon o Jerwsalem yn casglu o’i gwmpas, a dwyn nifer o gyhuddiadau difrifol yn ei erbyn, er bod dim modd profi dim un ohonyn nhw.
Actau 25:6-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Arhosodd Ffestus gyda hwy am wyth neu ddeg diwrnod ar y mwyaf. Yna aeth i lawr i Gesarea, a thrannoeth cymerodd ei le yn y llys a gorchymyn dod â Paul gerbron. Pan ymddangosodd Paul, safodd yr Iddewon oedd wedi dod i lawr o Jerwsalem o'i amgylch, gan ddwyn llawer o gyhuddiadau difrifol yn ei erbyn.