Actau 26:17-18
Actau 26:17-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gan dy wared di oddi wrth y bobl, a’r Cenhedloedd, at y rhai yr ydwyf yn dy anfon di yr awron, I agoryd eu llygaid, ac i’w troi o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw; fel y derbyniont faddeuant pechodau, a chyfran ymysg y rhai a sancteiddiwyd, trwy’r ffydd sydd ynof fi.
Actau 26:17-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bydda i’n dy achub di o afael dy bobl dy hun a phobl y cenhedloedd eraill. Dw i’n dy anfon di atyn nhw i agor eu llygaid nhw er mwyn iddyn nhw droi o dywyllwch i oleuni, a dianc o afael Satan at Dduw. Bydda i’n maddau eu pechodau nhw, a byddan nhw’n cael perthyn i’r bobl hynny sydd wedi’u gwneud yn lân drwy gredu ynof fi.’
Actau 26:17-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwaredaf di oddi wrth y bobl hyn ac oddi wrth y Cenhedloedd yr wyf yn dy anfon atynt, i agor eu llygaid, a'u troi o dywyllwch i oleuni, o awdurdod Satan at Dduw, er mwyn iddynt gael maddeuant pechodau a chyfran ymhlith y rhai a sancteiddiwyd trwy ffydd ynof fi.’