Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 27:23-24 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Actau 27:23-24 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Safodd angel Duw wrth fy ymyl i neithiwr – sef y Duw biau fi; yr un dw i’n ei wasanaethu. A dyma ddwedodd, ‘Paid bod ag ofn, Paul. Mae’n rhaid i ti sefyll dy brawf o flaen Cesar. Ac mae Duw’n garedig yn mynd i arbed bywydau pawb arall sydd ar y llong.’

Actau 27:23-24 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Oherwydd neithiwr safodd yn fy ymyl angel y Duw a'm piau, yr hwn yr wyf yn ei addoli, a dweud, ‘Paid ag ofni, Paul; y mae'n rhaid i ti sefyll gerbron Cesar, a dyma Dduw o'i ras wedi rhoi i ti fywydau pawb o'r rhai sy'n morio gyda thi.’

Actau 27:23-24 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Canys safodd yn fy ymyl y nos hon angel Duw, yr hwn a’m piau, a’r hwn yr wyf yn ei addoli, Gan ddywedyd, Nac ofna, Paul; rhaid i ti sefyll gerbron Cesar: ac wele, rhoddes Duw i ti y rhai oll sydd yn morio gyda thi.