Actau 28:26-27 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Actau 28:26-27 BNET (beibl.net 2015, 2024)
‘Dos at y bobl yma a dweud, “Gwrandwch yn astud, ond fyddwch chi ddim yn deall; Edrychwch yn ofalus, ond fyddwch chi ddim yn dirnad.” Maen nhw’n rhy ystyfnig i ddysgu unrhyw beth – maen nhw’n gwrthod gwrando, ac wedi cau eu llygaid. Fel arall, bydden nhw’n gweld â’u llygaid, yn clywed â’u clustiau, yn deall go iawn, ac yn troi, a byddwn i’n eu hiacháu nhw.’
Actau 28:26-27 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
“ ‘Dos at y bobl yma a dywed, “Er clywed a chlywed, ni ddeallwch ddim; er edrych ac edrych, ni welwch ddim.” Canys brasawyd calon y bobl yma, y mae eu clyw yn drwm, a'u llygaid wedi cau; rhag iddynt weld â'u llygaid, a chlywed â'u clustiau, a deall â'u calon a throi'n ôl, i mi eu hiacháu.’
Actau 28:26-27 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan ddywedyd, Dos at y bobl yma, a dywed, Yn clywed y clywch, ac ni ddeellwch; ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch: Canys brasawyd calon y bobl hyn, a thrwm y clywsant â’u clustiau, a’u llygaid a gaeasant; rhag iddynt weled â’u llygaid, a chlywed â’u clustiau, a deall â’r galon, a dychwelyd, ac i mi eu hiacháu hwynt.