Actau 4:18-21
Actau 4:18-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma nhw yn eu galw i ymddangos o’u blaenau unwaith eto, a dweud wrthyn nhw am beidio siarad am Iesu na dysgu amdano byth eto. Ond dyma Pedr ac Ioan yn ateb, “Beth fyddai Duw am i ni ei wneud? Penderfynwch chi – gwrando arnoch chi, neu ufuddhau iddo fe? Allwn ni ddim stopio sôn am y pethau dŷn ni wedi’u gweld a’u clywed.” Dyma nhw’n eu bygwth eto, ond yna’n eu gollwng yn rhydd. Doedd dim modd eu cosbi nhw, am fod y bobl o’u plaid nhw. Roedd pawb yn moli Duw am yr hyn oedd wedi digwydd.
Actau 4:18-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Galwasant hwy i mewn, a gorchymyn nad oeddent i siarad na dysgu o gwbl yn enw Iesu. Ond atebodd Pedr ac Ioan hwy: “A yw'n iawn yng ngolwg Duw wrando arnoch chwi yn hytrach nag ar Dduw? Barnwch chwi. Ni allwn ni dewi â sôn am y pethau yr ydym wedi eu gweld a'u clywed.” Ar ôl eu rhybuddio ymhellach gollyngodd y llys hwy'n rhydd, heb gael dim modd i'w cosbi, oherwydd y bobl; oblegid yr oedd pawb yn gogoneddu Duw am yr hyn oedd wedi digwydd.
Actau 4:18-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A hwy a’u galwasant hwynt, ac a orchmynasant iddynt nad ynganent ddim, ac na ddysgent yn enw yr Iesu. Eithr Pedr ac Ioan a atebasant iddynt, ac a ddywedasant, Ai cyfiawn yw gerbron Duw, wrando arnoch chwi yn hytrach nag ar Dduw, bernwch chwi. Canys ni allwn ni na ddywedom y pethau a welsom ac a glywsom. Eithr wedi eu bygwth ymhellach, hwy a’u gollyngasant hwy yn rhyddion, heb gael dim i’w cosbi hwynt, oblegid y bobl: canys yr oedd pawb yn gogoneddu Duw am yr hyn a wnaethid.