Actau 5:28-32
Actau 5:28-32 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Cawsoch chi orchymyn clir i beidio sôn am y dyn yna,” meddai, “ond dych chi wedi bod yn dweud wrth bawb yn Jerwsalem amdano, ac yn rhoi’r bai arnon ni am ei ladd!” Atebodd Pedr a’r apostolion eraill: “Mae’n rhaid i ni ufuddhau i Dduw, dim i ddynion meidrol fel chi! Duw ein cyndeidiau ni ddaeth â Iesu yn ôl yn fyw ar ôl i chi ei ladd drwy ei hoelio ar bren! Ac mae Duw wedi’i osod i eistedd yn y sedd anrhydedd yn y nefoedd. Iesu ydy’r Tywysog a’r Achubwr sy’n rhoi cyfle i Israel droi’n ôl at Dduw a chael eu pechodau wedi’u maddau. Dŷn ni’n gwybod fod hyn i gyd yn wir, ac mae’r Ysbryd Glân hefyd yn tystio i’r ffaith gyda ni. Dyma’r Ysbryd mae Duw yn ei roi i bawb sy’n ufuddhau iddo.”
Actau 5:28-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
a dweud, “Rhoesom orchymyn pendant i chwi beidio â dysgu yn yr enw hwn, a dyma chwi wedi llenwi Jerwsalem â'ch dysgeidiaeth, a'ch bwriad yw rhoi'r bai arnom ni am dywallt gwaed y dyn hwn.” Atebodd Pedr a'r apostolion, “Rhaid ufuddhau i Dduw yn hytrach nag i ddynion. Y mae Duw ein hynafiaid ni wedi cyfodi Iesu, yr hwn yr oeddech chwi wedi ei lofruddio trwy ei grogi ar bren. Hwn a ddyrchafodd Duw at ei law dde yn Bentywysog a Gwaredwr, i roi edifeirwch i Israel a maddeuant pechodau. Ac yr ydym ni'n dystion o'r pethau hyn, ni a'r Ysbryd Glân a roddodd Duw i'r rhai sy'n ufuddhau iddo.”
Actau 5:28-32 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gan ddywedyd, Oni orchmynasom ni, gan orchymyn i chwi nad athrawiaethech yn yr enw hwn? ac wele, chwi a lanwasoch Jerwsalem â’ch athrawiaeth, ac yr ydych yn ewyllysio dwyn arnom ni waed y dyn hwn. A Phedr a’r apostolion a atebasant ac a ddywedasant, Rhaid yw ufuddhau i Dduw yn fwy nag i ddynion. Duw ein tadau ni a gyfododd i fyny Iesu, yr hwn a laddasoch chwi, ac a groeshoeliasoch ar bren. Hwn a ddyrchafodd Duw â’i ddeheulaw, yn Dywysog, ac yn Iachawdwr, i roddi edifeirwch i Israel, a maddeuant pechodau. A nyni ydym ei dystion ef o’r pethau hyn, a’r Ysbryd Glân hefyd, yr hwn a roddes Duw i’r rhai sydd yn ufuddhau iddo ef.