Actau 5:3-5
Actau 5:3-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan ddaeth at yr apostolion dyma Pedr yn dweud wrtho, “Ananias, pam wyt ti wedi gadael i Satan gael gafael ynot ti? Rwyt ti wedi dweud celwydd wrth yr Ysbryd Glân drwy gadw peth o’r arian gest ti am y tir i ti dy hun! Ti oedd biau’r tir, ac roedd gen ti hawl i wneud beth fynnet ti â’r arian. Beth wnaeth i ti feddwl gwneud y fath beth? Dim wrthon ni rwyt ti wedi dweud celwydd, ond wrth Dduw!” Pan glywodd Ananias yr hyn ddwedodd Pedr, syrthiodd yn farw yn y fan a’r lle. Roedd pawb glywodd beth ddigwyddodd wedi dychryn am eu bywydau.
Actau 5:3-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond meddai Pedr, “Ananias, sut y bu i Satan lenwi dy galon i ddweud celwydd wrth yr Ysbryd Glân, a chadw'n ôl beth o'r tâl am y tir? Tra oedd yn aros heb ei werthu, onid yn dy feddiant di yr oedd yn aros? Ac wedi ei werthu, onid gennyt ti yr oedd yr hawl ar yr arian? Sut y rhoddaist le yn dy feddwl i'r fath weithred? Nid wrth ddynion y dywedaist gelwydd, ond wrth Dduw.” Wrth glywed y geiriau hyn syrthiodd Ananias yn farw, a daeth ofn mawr ar bawb a glywodd.
Actau 5:3-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr Pedr a ddywedodd, Ananeias, paham y llanwodd Satan dy galon di i ddywedyd celwydd wrth yr Ysbryd Glân, ac i ddarnguddio peth o werth y tir? Tra ydoedd yn aros, onid i ti yr oedd yn aros? ac wedi ei werthu, onid oedd yn dy feddiant di? Paham y gosodaist y peth hwn yn dy galon? ni ddywedaist ti gelwydd wrth ddynion, ond wrth Dduw. Ac Ananeias, pan glybu’r geiriau hyn, a syrthiodd i lawr, ac a drengodd. A daeth ofn mawr ar bawb a glybu’r pethau hyn.