Actau 6:1-7
Actau 6:1-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond wrth i nifer y bobl oedd yn credu dyfu, cododd problemau. Roedd y rhai oedd o gefndir Groegaidd yn cwyno am y rhai oedd yn dod o gefndir Hebreig. Roedden nhw’n teimlo fod eu gweddwon nhw yn cael eu hesgeuluso gan y rhai oedd yn gyfrifol am ddosbarthu bwyd bob dydd. Felly dyma’r Deuddeg yn galw’r credinwyr i gyd at ei gilydd. “Cyhoeddi a dysgu pobl beth ydy neges Duw ydy’n gwaith ni, dim trefnu’r ffordd mae bwyd yn cael ei ddosbarthu” medden nhw. “Felly frodyr a chwiorydd, dewiswch saith dyn o’ch plith – dynion mae pawb yn eu parchu ac yn gwybod eu bod yn llawn o’r Ysbryd Glân – dynion sy’n gallu gwneud y gwaith. Dŷn ni’n mynd i roi’r cyfrifoldeb yma iddyn nhw. Wedyn byddwn ni’n gallu rhoi’n sylw i gyd i weddi a dysgu pobl beth ydy neges Duw.” Roedd y syniad yma’n plesio pawb, a dyma nhw’n dewis y rhain: Steffan (dyn oedd yn credu’n gryf ac yn llawn o’r Ysbryd Glân), a Philip, Procorws, Nicanor, Timon, Parmenas, a Nicolas o Antiochia (oedd ddim yn Iddew, ond wedi troi at y grefydd Iddewig, a bellach yn dilyn y Meseia). Dyma nhw’n eu cyflwyno i’r apostolion, ac ar ôl gweddïo dyma’r apostolion yn eu comisiynu nhw ar gyfer y gwaith drwy roi eu dwylo arnyn nhw. Roedd neges Duw yn mynd ar led, a nifer y disgyblion yn Jerwsalem yn tyfu’n gyflym. Roedd nifer fawr o’r offeiriaid Iddewig yn dilyn y Meseia hefyd.
Actau 6:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn y dyddiau hynny, pan oedd y disgyblion yn amlhau, bu grwgnach gan yr Iddewon Groeg eu hiaith yn erbyn y rhai Hebraeg, am fod eu gweddwon hwy yn cael eu hesgeuluso yn y ddarpariaeth feunyddiol. Galwodd y Deuddeg gynulleidfa'r disgyblion atynt, a dweud, “Nid yw'n addas ein bod ni'n gadael gair Duw, i weini wrth fyrddau. Gyfeillion, dewiswch saith o ddynion o'ch plith ac iddynt air da, yn llawn o'r Ysbryd ac o ddoethineb, ac fe'u gosodwn hwy ar hyn o orchwyl. Fe barhawn ni yn ddyfal yn y gweddïo ac yng ngwasanaeth y gair.” A bu eu geiriau yn gymeradwy gan yr holl gynulleidfa, a dyma ddewis Steffan, gŵr llawn o ffydd ac o'r Ysbryd Glân, a Philip a Prochorus a Nicanor a Timon a Parmenas a Nicolaus, proselyt o Antiochia. Gosodasant y rhain gerbron yr apostolion, ac wedi gweddïo rhoesant hwythau eu dwylo arnynt. Yr oedd gair Duw'n mynd ar gynnydd. Yr oedd nifer y disgyblion yn Jerwsalem yn lluosogi'n ddirfawr, a thyrfa fawr o'r offeiriaid hefyd yn ufuddhau i'r ffydd.
Actau 6:1-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yn y dyddiau hynny, a’r disgyblion yn amlhau, bu grwgnach gan y Groegiaid yn erbyn yr Hebreaid, am ddirmygu eu gwragedd gweddwon hwy yn y weinidogaeth feunyddiol. Yna y deuddeg a alwasant ynghyd y lliaws disgyblion, ac a ddywedasant, Nid yw gymesur i ni adael gair Duw, a gwasanaethu byrddau. Am hynny, frodyr, edrychwch yn eich plith am seithwyr da eu gair, yn llawn o’r Ysbryd Glân a doethineb, y rhai a osodom ar hyn o orchwyl. Eithr ni a barhawn mewn gweddi a gweinidogaeth y gair. A bodlon fu’r ymadrodd gan yr holl liaws: a hwy a etholasant Steffan, gŵr llawn o ffydd ac o’r Ysbryd Glân, a Philip, a Phrochorus, a Nicanor, a Thimon, a Pharmenas, a Nicolas, proselyt o Antiochia: Y rhai a osodasant hwy gerbron yr apostolion; ac wedi iddynt weddïo, hwy a ddodasant eu dwylo arnynt hwy. A gair Duw a gynyddodd; a rhifedi’r disgyblion yn Jerwsalem a amlhaodd yn ddirfawr, a thyrfa fawr o’r offeiriaid a ufuddhasant i’r ffydd.