Actau 8:29-31
Actau 8:29-31 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r Ysbryd Glân yn dweud wrth Philip, “Dos a rheda wrth ymyl y cerbyd acw.” Felly dyma Philip yn rhedeg at y cerbyd, ac roedd yn clywed y dyn yn darllen o lyfr proffwydoliaeth Eseia. Felly gofynnodd Philip iddo, “Wyt ti’n deall beth rwyt ti’n ei ddarllen?” “Sut alla i ddeall heb i rywun ei esbonio i mi?” meddai’r dyn. Felly gofynnodd i Philip fynd i eistedd yn y cerbyd gydag e.
Actau 8:29-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd yr Ysbryd wrth Philip, “Dos a glŷn wrth y cerbyd yna.” Rhedodd Philip ato a chlywodd ef yn darllen y proffwyd Eseia, ac meddai, “A wyt ti'n deall, tybed, beth yr wyt yn ei ddarllen?” Meddai yntau, “Wel, sut y gallwn i, heb i rywun fy nghyfarwyddo?” Gwahoddodd Philip i ddod i fyny ato ac eistedd gydag ef.
Actau 8:29-31 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A dywedodd yr Ysbryd wrth Philip, Dos yn nes, a glŷn wrth y cerbyd yma. A Philip a redodd ato, ac a’i clybu ef yn darllen y proffwyd Eseias; ac a ddywedodd, A wyt ti yn deall y pethau yr wyt yn eu darllen? Ac efe a ddywedodd, Pa fodd y gallaf, oddieithr i rywun fy nghyfarwyddo i? Ac efe a ddymunodd ar Philip ddyfod i fyny, ac eistedd gydag ef.