Actau 9:1-9
Actau 9:1-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yn y cyfamser, roedd Saul yn dal i fynd o gwmpas yn bygwth lladd dilynwyr yr Arglwydd. Roedd wedi mynd at yr Archoffeiriad i ofyn am lythyrau i synagogau Damascus yn rhoi’r hawl iddo arestio unrhyw un oedd yn dilyn y Ffordd. Roedd ganddo awdurdod i gadw dynion a merched yn y ddalfa a mynd â nhw’n gaeth i Jerwsalem. Roedd yn agos at Damascus pan fflachiodd golau disglair o’r nefoedd o’i gwmpas. Syrthiodd ar lawr a chlywed llais yn dweud wrtho: “Saul? Saul? Pam wyt ti’n fy erlid i?” “Pwy wyt ti, syr?” gofynnodd Saul. “Iesu ydw i,” atebodd, “yr un rwyt ti’n ei erlid. Nawr cod ar dy draed a dos i mewn i’r ddinas. Cei di wybod yno beth mae’n rhaid i ti ei wneud.” Roedd y rhai oedd yn teithio gydag e’n sefyll yn fud; roedden nhw’n clywed y llais ond doedden nhw’n gweld neb. Cododd Saul ar ei draed, ond pan agorodd ei lygaid, doedd e ddim yn gallu gweld. Felly dyma nhw’n gafael yn ei law ac yn ei arwain i mewn i dre Damascus. Arhosodd yno am dri diwrnod. Roedd yn ddall ac yn gwrthod bwyta nac yfed dim.
Actau 9:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd Saul yn dal i chwythu bygythion angheuol yn erbyn disgyblion yr Arglwydd, ac fe aeth at yr archoffeiriad a gofyn iddo am lythyrau at y synagogau yn Namascus, fel os byddai'n cael hyd i rywrai o bobl y Ffordd, yn wŷr neu'n wragedd, y gallai eu dal a dod â hwy i Jerwsalem. Pan oedd ar ei daith ac yn agosáu at Ddamascus, yn sydyn fflachiodd o'i amgylch oleuni o'r nef. Syrthiodd ar lawr, a chlywodd lais yn dweud wrtho, “Saul, Saul, pam yr wyt yn fy erlid i?” Dywedodd yntau, “Pwy wyt ti, Arglwydd?” Ac ebe'r llais, “Iesu wyf fi, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid. Ond cod, a dos i mewn i'r ddinas, ac fe ddywedir wrthyt beth sy raid iti ei wneud.” Yr oedd y dynion oedd yn cyd-deithio ag ef yn sefyll yn fud, yn clywed y llais ond heb weld neb. Cododd Saul oddi ar lawr, ond er bod ei lygaid yn agored ni allai weld dim. Arweiniasant ef gerfydd ei law i mewn i Ddamascus. Bu am dridiau heb weld, ac ni chymerodd na bwyd na diod.
Actau 9:1-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Saul eto yn chwythu bygythiau a chelanedd yn erbyn disgyblion yr Arglwydd, a aeth at yr archoffeiriad, Ac a ddeisyfodd ganddo lythyrau i Ddamascus, at y synagogau; fel os câi efe neb o’r ffordd hon, na gwŷr na gwragedd, y gallai efe eu dwyn hwy yn rhwym i Jerwsalem. Ac fel yr oedd efe yn ymdaith, bu iddo ddyfod yn agos i Ddamascus: ac yn ddisymwth llewyrchodd o’i amgylch oleuni o’r nef. Ac efe a syrthiodd ar y ddaear, ac a glybu lais yn dywedyd wrtho, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid i? Yntau a ddywedodd, Pwy wyt ti, Arglwydd? A’r Arglwydd a ddywedodd, Myfi yw Iesu, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid: caled yw i ti wingo yn erbyn y symbylau. Yntau gan grynu, ac â braw arno, a ddywedodd, Arglwydd, beth a fynni di i mi ei wneuthur? A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos i’r ddinas, ac fe a ddywedir i ti pa beth sydd raid i ti ei wneuthur. A’r gwŷr oedd yn cyd-deithio ag ef a safasant yn fud, gan glywed y llais, ac heb weled neb. A Saul a gyfododd oddi ar y ddaear; a phan agorwyd ei lygaid, ni welai efe neb: eithr hwy a’i tywysasant ef erbyn ei law, ac a’i dygasant ef i mewn i Ddamascus. Ac efe a fu dridiau heb weled, ac ni wnaeth na bwyta nac yfed.