Colosiaid 1:9-14
Colosiaid 1:9-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ac felly dŷn ni wedi bod yn dal ati i weddïo drosoch chi ers y diwrnod y clywon ni hynny. Dŷn ni’n gofyn i Dduw ddangos i chi yn union beth mae eisiau, a’ch gwneud chi’n ddoeth i allu deall pethau ysbrydol. Pwrpas hynny yn y pen draw ydy i chi fyw fel mae Duw am i chi fyw, a’i blesio fe ym mhob ffordd: drwy fyw bywydau sy’n llawn o weithredoedd da o bob math, a dod i nabod Duw yn well. Dŷn ni’n gweddïo y bydd Duw yn defnyddio’r holl rym anhygoel sydd ganddo i’ch gwneud chi’n gryfach ac yn gryfach. Wedyn byddwch chi’n gallu dal ati yn amyneddgar, a diolch yn llawen i’r Tad. Fe sydd wedi’ch gwneud chi’n deilwng i dderbyn eich cyfran o beth mae wedi’i gadw i’w bobl ei hun yn nheyrnas y goleuni. Mae e wedi’n hachub ni o’r tywyllwch oedd yn ein gormesu ni. Ac mae wedi dod â ni dan deyrnasiad y Mab mae’n ei garu. Ei Fab sydd wedi’n gollwng ni’n rhydd! Mae wedi maddau’n pechodau ni!
Colosiaid 1:9-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd hyn, o'r dydd y clywsom hynny, nid ydym yn peidio â gweddïo drosoch. Deisyf yr ydym ar ichwi gael eich llenwi, trwy bob doethineb a deall ysbrydol, ag amgyffrediad o ewyllys Duw, er mwyn ichwi fyw yn deilwng o'r Arglwydd a rhyngu ei fodd yn gyfan gwbl, gan ddwyn ffrwyth mewn gweithredoedd da o bob math, a chynyddu yn eich adnabyddiaeth o Dduw. Yr ydym yn deisyf ar ichwi gael eich grymuso â phob grymuster, yn ôl nerth ei ogoniant ef, i ddyfalbarhau a hirymaros yn llawen ym mhob dim, gan ddiolch i'r Tad, yr hwn a'ch gwnaeth yn gymwys i gael cyfran o etifeddiaeth y saint yn y goleuni. Gwaredodd ni o afael y tywyllwch, a'n trosglwyddo i deyrnas ei annwyl Fab, yn yr hwn y mae inni brynedigaeth, sef maddeuant ein pechodau.
Colosiaid 1:9-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oherwydd hyn ninnau hefyd, er y dydd y clywsom, nid ydym yn peidio â gweddïo drosoch, a deisyf eich cyflawni chwi â gwybodaeth ei ewyllys ef ym mhob doethineb a deall ysbrydol; Fel y rhodioch yn addas i’r Arglwydd i bob rhyngu bodd, gan ddwyn ffrwyth ym mhob gweithred dda, a chynyddu yng ngwybodaeth am Dduw; Wedi eich nerthu â phob nerth yn ôl ei gadernid gogoneddus ef, i bob dioddefgarwch a hirymaros gyda llawenydd; Gan ddiolch i’r Tad, yr hwn a’n gwnaeth ni yn gymwys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni: Yr hwn a’n gwaredodd ni allan o feddiant y tywyllwch, ac a’n symudodd i deyrnas ei annwyl Fab: Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau