Colosiaid 2:8-10
Colosiaid 2:8-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Peidiwch gadael i unrhyw un eich rhwymo chi gyda rhyw syniadau sy’n ddim byd ond nonsens gwag – syniadau sy’n dilyn traddodiadau dynol a’r dylanwadau drwg sy’n rheoli’r byd yma, yn lle dibynnu ar y Meseia. Achos yn y Meseia mae dwyfoldeb yn gyfan gwbl yn byw mewn person dynol. A dych chi hefyd yn gyflawn am eich bod yn perthyn i’r Meseia, sy’n ben ar bob grym ac awdurdod!
Colosiaid 2:8-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwyliwch rhag i neb eich cipio i gaethiwed drwy athroniaeth a gwag hudoliaeth yn ôl traddodiad dynol, yn ôl ysbrydion elfennig y cyfanfyd, ac nid yn ôl Crist. Oherwydd ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio'n gorfforol, ac yr ydych chwithau wedi eich dwyn i gyflawnder ynddo ef. Y mae ef yn ben ar bob tywysogaeth ac awdurdod.
Colosiaid 2:8-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Edrychwch na bo neb yn eich anrheithio trwy philosophi a gwag dwyll, yn ôl traddodiad dynion, yn ôl egwyddorion y byd, ac nid yn ôl Crist. Oblegid ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio yn gorfforol. Ac yr ydych chwi wedi eich cyflawni ynddo ef, yr hwn yw pen pob tywysogaeth ac awdurdod