Daniel 3:1-30
Daniel 3:1-30 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r brenin Nebwchadnesar yn gwneud delw aur oedd yn 27 metr o uchder ac yn dri metr o led. Cafodd y cerflun ei osod ar wastadedd Dwra yn nhalaith Babilon. Yna anfonodd orchymyn allan yn galw penaethiaid y taleithiau, yr uchel-swyddogion a’r llywodraethwyr i gyd at ei gilydd i seremoni dadorchuddio’r ddelw; hefyd rheolwyr a chomisiynwyr, cynghorwyr y brenin, trysoryddion, barnwyr, ynadon, a phawb arall o bwys. A dyma nhw i gyd yn dod i’r seremoni. Roedd pawb yno, yn sefyll o flaen y ddelw oedd Nebwchadnesar wedi’i chodi. Yna dyma swyddog yn cyhoeddi’n uchel, “Dyma orchymyn y brenin i bawb sydd yma, o bob gwlad ac iaith: Pan fydd y gerddoriaeth yn dechrau – y corn, ffliwt, telyn, trigon, crythau, pibau a’r offerynnau eraill – mae pawb i blygu i lawr ac addoli’r ddelw aur mae’r brenin Nebwchadnesar wedi’i chodi. Bydd pwy bynnag sy’n gwrthod plygu ac addoli’r ddelw, yn cael eu taflu ar unwaith i mewn i ffwrnais o dân.” Felly yr eiliad y clywodd y bobl yr offerynnau i gyd, dyma pawb, o bob gwlad ac iaith yn plygu i lawr ac yn addoli’r ddelw aur oedd Nebwchadnesar wedi’i chodi. Ond dyma rai o’r dynion doeth yn mynd at y brenin, a dechrau lladd ar yr Iddewon. “O frenin! Boed i chi fyw am byth!” medden nhw. “Roeddech chi wedi gorchymyn fod pawb i blygu i lawr ac addoli’r ddelw aur pan oedden nhw’n clywed y gerddoriaeth yn dechrau. A bod pwy bynnag sy’n gwrthod plygu ac addoli’r ddelw, i gael eu taflu i mewn i ffwrnais o dân. Ond mae yna Iddewon yma – Shadrach, Meshach ac Abednego – gafodd eu penodi yn rheolwyr talaith Babilon gynnoch chi. Maen nhw wedi gwrthod gwrando, eich mawrhydi. Dŷn nhw ddim yn addoli eich duwiau chi, ac maen nhw’n gwrthod addoli y ddelw aur dych chi wedi’i chodi.” Dyma Nebwchadnesar yn gwylltio’n lân, ac yn gorchymyn dod â Shadrach, Meshach ac Abednego o’i flaen. Felly dyma nhw’n dod â’r tri o flaen y brenin. A dyma Nebwchadnesar yn gofyn iddyn nhw, “Shadrach, Meshach ac Abednego. Ydy e’n wir eich bod chi ddim yn addoli fy nuwiau i, a’ch bod chi wedi gwrthod addoli’r ddelw aur dw i wedi’i chodi? Dw i’n fodlon rhoi un cyfle arall i chi. Pan fyddwch chi’n clywed yr offerynnau, os ydych chi’n barod i blygu i lawr ac addoli y ddelw dw i wedi’i chodi, bydd popeth yn iawn. Ond os byddwch chi’n gwrthod, byddwch chi’n cael eich taflu ar unwaith i mewn i’r ffwrnais o dân. Pa dduw sy’n mynd i’ch achub chi o’m gafael i wedyn?” Ond dyma Shadrach, Meshach ac Abednego yn ateb y brenin, “Does dim pwynt i ni eich ateb chi. Os ydy’r Duw dŷn ni’n ei addoli yn bodoli, bydd e’n gallu’n hachub ni o’r ffwrnais dân ac o’ch gafael chi, o frenin. Ond hyd yn oed os ydy e ddim yn gwneud hynny, sdim gwahaniaeth. Does gynnon ni ddim bwriad addoli eich duwiau chi, na’r ddelw aur dych chi wedi’i chodi.” Roedd Nebwchadnesar yn lloerig gyda Shadrach, Meshach ac Abednego. Roedd ei wyneb yn dweud y cwbl! Rhoddodd orchymyn fod y ffwrnais i gael ei thanio saith gwaith poethach nag arfer. Yna gorchmynnodd i ddynion cryf o’r fyddin rwymo Shadrach, Meshach ac Abednego a’u taflu nhw i mewn i’r ffwrnais. A dyma’r tri yn cael eu rhwymo a’u taflu i’r ffwrnais heb hyd yn oed dynnu eu dillad. Roedden nhw’n dal i wisgo’r cwbl – clogyn, trowsus, twrban, a phob dilledyn arall. Am fod y brenin wedi gorchymyn gwneud y ffwrnais mor eithafol o boeth, dyma’r fflamau’n llamu allan o’r ffwrnais a lladd y milwyr wrth iddyn nhw daflu Shadrach, Meshach ac Abednego i’r tân. Felly dyma Shadrach, Meshach ac Abednego yn syrthio, wedi’u rhwymo’n dynn, i ganol y tân yn y ffwrnais. Ond yna’n sydyn dyma’r Brenin Nebwchadnesar yn neidio ar ei draed mewn braw. “Onid tri dyn wnaethon ni eu rhwymo a’u taflu i’r tân?” meddai wrth ei gynghorwyr. “Ie, yn sicr,” medden nhw. “Ond edrychwch!” gwaeddodd y brenin. “Dw i’n gweld pedwar o bobl yn cerdded yn rhydd yng nghanol y tân. A dŷn nhw ddim wedi cael unrhyw niwed! Ac mae’r pedwerydd yn edrych fel petai’n fod dwyfol.” Dyma Nebwchadnesar yn mynd mor agos ag y gallai at ddrws y ffwrnais, a gweiddi: “Shadrach, Meshach, Abednego, gweision y Duw Goruchaf. Dewch allan! Dewch yma!” A dyma’r tri yn cerdded allan o’r tân. Dyma benaethiaid y taleithiau, yr uchel-swyddogion, y llywodraethwyr a chynghorwyr y brenin i gyd yn casglu o’u cwmpas nhw. Doedd y tân ddim wedi’u llosgi nhw o gwbl, dim un blewyn. Doedd dim niwed i’w dillad. Doedd dim hyd yn oed arogl llosgi arnyn nhw! Ac meddai Nebwchadnesar, “Moliant i Dduw Shadrach, Meshach ac Abednego! Anfonodd angel i achub ei weision oedd yn trystio ynddo. Roedden nhw’n fodlon herio gorchymyn y brenin, a hyd yn oed marw cyn addoli unrhyw dduw ond eu Duw eu hunain. Felly dw i am ei wneud yn ddeddf fod neb o unrhyw wlad neu iaith i ddweud unrhyw beth yn erbyn Duw Shadrach, Meshach ac Abednego. Os gwnân nhw, bydd eu cyrff yn cael eu rhwygo’n ddarnau, a’u cartrefi yn cael eu troi’n domen sbwriel! Achos does yr un Duw arall yn gallu achub fel yma.” A dyma’r brenin yn rhoi dyrchafiad a swyddi gwell fyth yn nhalaith Babilon i Shadrach, Meshach ac Abednego.
Daniel 3:1-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwnaeth y Brenin Nebuchadnesar ddelw aur drigain cufydd o uchder a chwe chufydd o led, a'i gosod yng ngwastadedd Dura yn nhalaith Babilon. A gwysiodd y Brenin Nebuchadnesar y tywysogion, y penaethiaid, y pendefigion, y rhaglawiaid, y trysorwyr, y barnwyr, y cyfreithwyr, a holl lywodraethwyr y taleithiau i ddod ynghyd i gysegru'r ddelw a wnaeth y Brenin Nebuchadnesar. Yna daeth y tywysogion, y penaethiaid, y pendefigion, y rhaglawiaid, y trysorwyr, y barnwyr, y cyfreithwyr, a holl lywodraethwyr y taleithiau at ei gilydd i gysegru'r ddelw a wnaeth Nebuchadnesar, a sefyll o'i blaen. Gwaeddodd y cyhoeddwr yn uchel, “Dyma'r gorchymyn i chwi bobloedd, genhedloedd ac ieithoedd. Pan glywch sŵn y corn, y pibgorn, y delyn, y trigon, y crythau, a'r fagbib, a phob math o offeryn, syrthiwch ac addoli'r ddelw aur a wnaeth y Brenin Nebuchadnesar. Pwy bynnag sy'n gwrthod syrthio ac addoli, caiff ei daflu ar unwaith i ganol ffwrn o dân poeth.” Felly, cyn gynted ag y clywodd yr holl bobl sŵn y corn, y pibgorn, y delyn, y trigon, y crythau, a'r bagbib, a phob math o offeryn, syrthiodd y bobloedd a'r cenhedloedd a'r ieithoedd ac addoli'r ddelw aur a wnaeth Nebuchadnesar. Dyna'r adeg y daeth rhai o'r Caldeaid â chyhuddiad yn erbyn yr Iddewon, a dweud wrth y Brenin Nebuchadnesar, “O frenin, bydd fyw byth! Rhoddaist orchymyn, O frenin, fod pawb a glywai sŵn y corn, y pibgorn, y delyn, y trigon, y crythau, a'r bagbib, a phob math o offeryn, i syrthio ac addoli'r ddelw aur, a bod pob un sy'n gwrthod syrthio ac addoli i'w daflu i ganol ffwrnais o dân poeth. Y mae rhyw Iddewon a benodaist yn llywodraethwyr yn nhalaith Babilon—Sadrach, Mesach ac Abednego—heb gymryd dim sylw ohonot, O frenin. Nid ydynt yn gwasanaethu dy dduwiau, nac yn addoli'r ddelw aur a wnaethost,” Yna, mewn tymer wyllt, anfonodd Nebuchadnesar am Sadrach, Mesach ac Abednego. Pan ddygwyd hwy o flaen y brenin, dywedodd, “Sadrach, Mesach ac Abednego, a yw'n wir nad ydych yn gwasanaethu fy nuwiau i nac yn addoli'r ddelw aur a wneuthum? Yn awr, a ydych yn barod i syrthio ac addoli'r ddelw a wneuthum, pan glywch sŵn y corn, y pibgorn, y delyn, y trigon, y crythau, a'r bagbib, a phob math o offeryn? Os na wnewch, teflir chwi ar unwaith i ganol ffwrnais o dân poeth. Pa dduw a all eich gwaredu o'm gafael?” Atebodd Sadrach, Mesach ac Abednego y brenin, “Nid oes angen i ni dy ateb ynglŷn â hyn. Y mae'r Duw a addolwn ni yn alluog i'n hachub, ac fe'n hachub o ganol y ffwrnais danllyd ac o'th afael dithau, O frenin; a hyd yn oed os na wna, yr ydym am i ti wybod, O frenin, na wasanaethwn ni dy dduwiau nac addoli'r ddelw aur a wnaethost.” Yna cynddeiriogodd Nebuchadnesar, a newid ei agwedd tuag at Sadrach, Mesach ac Abednego. Gorchmynnodd dwymo'r ffwrnais yn seithwaith poethach nag arfer, ac i filwyr praff o'i fyddin rwymo Sadrach, Mesach ac Abednego a'u taflu i'r ffwrnais dân. Felly rhwymwyd y tri yn eu dillad—cotiau, crysau a chapiau—a'u taflu i ganol y ffwrnais dân. Yr oedd gorchymyn y brenin mor chwyrn, a'r ffwrnais mor boeth, yswyd y dynion oedd yn cario Sadrach, Mesach ac Abednego gan fflamau'r tân, a syrthiodd y tri gwron, Sadrach, Mesach ac Abednego, yn eu rhwymau i ganol y ffwrnais dân. Yna neidiodd Nebuchadnesar ar ei draed mewn syndod a dweud wrth ei gynghorwyr, “Onid tri dyn a daflwyd gennym yn rhwym i ganol y tân?” “Gwir, O frenin,” oedd yr ateb. “Ond,” meddai yntau, “rwy'n gweld pedwar o ddynion yn cerdded yn rhydd ynghanol y tân, heb niwed, a'r pedwerydd yn debyg i un o feibion y duwiau.” Yna aeth Nebuchadnesar at geg y ffwrnais a dweud, “Sadrach, Mesach ac Abednego, gweision y Duw Goruchaf, dewch allan a dewch yma.” A daeth Sadrach, Mesach ac Abednego allan o ganol y tân. Pan ddaeth tywysogion, penaethiaid, pendefigion a chynghorwyr y brenin at ei gilydd, gwelsant nad oedd y tân wedi cyffwrdd â chyrff y tri. Nid oedd gwallt eu pen wedi ei ddeifio, na'u dillad wedi eu llosgi, ac nid oedd arogl tân arnynt. A dywedodd Nebuchadnesar, “Bendigedig yw Duw Sadrach, Mesach ac Abednego, a anfonodd ei angel i achub ei weision, a ymddiriedodd ynddo a herio gorchymyn y brenin, a rhoi eu cyrff i'r tân yn hytrach na gwasanaethu ac addoli unrhyw dduw ond eu Duw eu hunain. Yr wyf yn gorchymyn fod unrhyw un, beth bynnag fo'i bobl, ei genedl, neu ei iaith, sy'n cablu Duw Sadrach, Mesach ac Abednego yn cael ei rwygo'n ddarnau, a bod ei dŷ i'w droi'n domen. Nid oes duw arall a all waredu fel hyn.” Yna parodd y brenin lwyddiant i Sadrach, Mesach ac Abednego yn nhalaith Babilon.
Daniel 3:1-30 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Nebuchodonosor y brenin a wnaeth ddelw aur, ei huchder oedd yn drigain cufydd, ei lled yn chwe chufydd; ac efe a’i gosododd hi i fyny yng ngwastadedd Dura, o fewn talaith Babilon. Yna Nebuchodonosor y brenin a anfonodd i gasglu ynghyd y tywysogion, dugiaid, a phendefigion, y rhaglawiaid, y trysorwyr, y cyfreithwyr, y trethwyr, a holl lywodraethwyr y taleithiau, i ddyfod wrth gysegru y ddelw a gyfodasai Nebuchodonosor y brenin. Yna y tywysogion, dugiaid, a phendefigion, rhaglawiaid, y trysorwyr, y cyfreithwyr, y trethwyr, a holl lywodraethwyr y taleithiau, a ymgasglasant ynghyd wrth gysegru y ddelw a gyfodasai Nebuchodonosor y brenin: a hwy a safasant o flaen y ddelw a gyfodasai Nebuchodonosor. A chyhoeddwr a lefodd yn groch, Wrthych chwi, bobloedd, genhedloedd, a ieithoedd, y dywedir, Pan glywoch sŵn y cornet, y chwibanogl, y delyn, y dulsimer, y saltring, y symffon, a phob rhyw gerdd, y syrthiwch, ac yr addolwch y ddelw aur a gyfododd Nebuchodonosor y brenin. A’r hwn ni syrthio ac ni addolo, yr awr honno a fwrir i ganol ffwrn o dân poeth. Am hynny yr amser hwnnw, pan glywodd yr holl bobloedd sain y cornet, y chwibanogl, y delyn, y dulsimer, y saltring, a phob rhyw gerdd, y bobloedd, y cenhedloedd, a’r ieithoedd oll, a syrthiasant, ac a addolasant y ddelw aur a gyfodasai Nebuchodonosor y brenin. O ran hynny yr amser hwnnw y daeth gwŷr o Caldea, ac a gyhuddasant yr Iddewon. Adroddasant a dywedasant wrth Nebuchodonosor y brenin, Bydd fyw, frenin, yn dragywydd. Ti, frenin, a osodaist orchymyn, ar i bwy bynnag a glywai sain y cornet, y chwibanogl, y delyn, y dulsimer, y saltring, a’r symffon, a phob rhyw gerdd, syrthio ac ymgrymu i’r ddelw aur: A phwy bynnag ni syrthiai ac nid ymgrymai, y teflid ef i ganol ffwrn o dân poeth. Y mae gwŷr o Iddewon a osodaist ti ar oruchwyliaeth talaith Babilon, Sadrach, Mesach, ac Abednego; y gwŷr hyn, O frenin, ni wnaethant gyfrif ohonot ti; dy dduwiau nid addolant, ac nid ymgrymant i’r ddelw aur a gyfodaist. Yna Nebuchodonosor mewn llidiowgrwydd a dicter a ddywedodd am gyrchu Sadrach, Mesach, ac Abednego. Yna y ducpwyd y gwŷr hyn o flaen y brenin. Adroddodd Nebuchodonosor a dywedodd wrthynt, Ai gwir hyn, Sadrach, Mesach, ac Abednego? oni addolwch chwi fy nuwiau i, ac oni ymgrymwch i’r ddelw aur a gyfodais i? Yr awr hon wele, os byddwch chwi barod pan glywoch sain y cornet, y chwibanogl, y delyn, y dulsimer, y saltring, a’r symffon, a phob rhyw gerdd, i syrthio ac i ymgrymu i’r ddelw a wneuthum, da: ac onid ymgrymwch, yr awr honno y bwrir chwi i ganol ffwrn o dân poeth; a pha DDUW yw efe a’ch gwared chwi o’m dwylo i? Sadrach, Mesach, ac Abednego a atebasant ac a ddywedasant wrth y brenin, Nebuchodonosor, nid ydym ni yn gofalu am ateb i ti yn y peth hyn. Wele, y mae ein DUW ni, yr hwn yr ydym ni yn ei addoli, yn abl i’n gwared ni allan o’r ffwrn danllyd boeth: ac efe a’n gwared ni o’th law di, O frenin. Ac onid e, bydded hysbys i ti, frenin, na addolwn dy dduwiau, ac nad ymgrymwn i’th ddelw aur a gyfodaist. Yna y llanwyd Nebuchodonosor o lidiowgrwydd, a gwedd ei wyneb ef a newidiodd yn erbyn Sadrach, Mesach, ac Abednego; am hynny y llefarodd ac y dywedodd am dwymo y ffwrn seithwaith mwy nag y byddid arfer o’i thwymo hi. Ac efe a ddywedodd wrth wŷr cryfion nerthol, y rhai oedd yn ei lu ef, am rwymo Sadrach, Mesach, ac Abednego, i’w bwrw i’r ffwrn o dân poeth. Yna y rhwymwyd y gwŷr hynny yn eu peisiau, eu llodrau, a’u cwcyllau, a’u dillad eraill, ac a’u bwriwyd i ganol y ffwrn o dân poeth. Gan hynny, o achos bod gorchymyn y brenin yn gaeth, a’r ffwrn yn boeth ragorol, fflam y tân a laddodd y gwŷr hynny a fwriasant i fyny Sadrach, Mesach, ac Abednego. A’r triwyr hyn, Sadrach, Mesach, ac Abednego, a syrthiasant yng nghanol y ffwrn o dân poeth yn rhwym. Yna y synnodd ar Nebuchodonosor y brenin, ac y cyfododd ar frys, atebodd hefyd a dywedodd wrth ei gynghoriaid, Onid triwyr a fwriasom ni i ganol y tân yn rhwym? Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrth y brenin, Gwir, O frenin. Atebodd a dywedodd yntau, Wele fi yn gweled pedwar o wŷr rhyddion yn rhodio yng nghanol y tân, ac nid oes niwed arnynt; a dull y pedwerydd sydd debyg i Fab DUW. Yna y nesaodd Nebuchodonosor at enau y ffwrn o dân poeth, ac a lefarodd ac a ddywedodd, O Sadrach, Mesach, ac Abednego, gwasanaethwyr y DUW goruchaf, deuwch allan, a deuwch yma. Yna Sadrach, Mesach, ac Abednego a ddaethant allan o ganol y tân. A’r tywysogion, dugiaid, a phendefigion, a chynghoriaid y brenin, a ymgasglasant ynghyd, ac a welsant y gwŷr hyn, y rhai ni finiasai y tân ar eu cyrff, ac ni ddeifiasai flewyn o’u pen, ni newidiasai eu peisiau chwaith, ac nid aethai sawr y tân arnynt. Atebodd Nebuchodonosor a dywedodd, Bendigedig yw DUW Sadrach, Mesach, ac Abednego, yr hwn a anfonodd ei angel, ac a waredodd ei weision a ymddiriedasant ynddo, ac a dorasant orchymyn y brenin, ac a roddasant eu cyrff, rhag gwasanaethu nac ymgrymu ohonynt i un duw, ond i’w DUW eu hun. Am hynny y gosodir gorchymyn gennyf fi, Pob pobl, cenedl, a iaith, yr hon a ddywedo ddim ar fai yn erbyn DUW Sadrach, Mesach, ac Abednego, a wneir yn ddrylliau, a’u tai a wneir yn domen: oherwydd nad oes duw arall a ddichon wared fel hyn. Yna y mawrhaodd y brenin Sadrach, Mesach, ac Abednego, o fewn talaith Babilon.