Logo Ap Beibl
Eicon Chwilio

Daniel 5:16 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Daniel 5:16 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Ond dw i wedi cael ar ddeall dy fod ti’n gallu dehongli pethau a datrys problemau cymhleth. Felly, os gelli di ei ddarllen a dweud wrtho i beth mae’n ei olygu, byddi’n cael dy wisgo mewn porffor, yn cael cadwyn aur am dy wddf, ac yn cael y drydedd swydd uchaf yn y deyrnas.”

Daniel 5:16 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Ond rwy'n clywed dy fod ti'n gallu rhoi dehongliadau a datrys problemau. Yn awr os medri ddarllen yr ysgrifen a'i dehongli i mi, cei wisg borffor, a chadwyn aur am dy wddf, a llywodraethu'n drydydd yn y deyrnas.”

Daniel 5:16 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Ac mi a glywais amdanat ti, y medri ddeongl deongliadau, a datod clymau; yr awr hon os medri ddarllen yr ysgrifen, a hysbysu i mi ei dehongliad, tydi a wisgir â phorffor, ac a gei gadwyn aur am dy wddf, ac a gei lywodraethu yn drydydd yn y deyrnas.