Daniel 9:26-27 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Daniel 9:26-27 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl y chwe deg dau cyfnod o saith, bydd yr un wedi’i eneinio yn cael ei dorri i ffwrdd, bydd heb ddim. Yna bydd y ddinas a’r deml yn cael eu dinistrio gan fyddin arweinydd arall sydd i ddod. Bydd y diwedd yn dod fel llif. Bydd rhyfela’n para i’r diwedd. Mae dinistr wedi’i gyhoeddi. Bydd yn gwneud ymrwymiad gyda’r tyrfaoedd am un cyfnod o saith. Ond hanner ffordd drwy’r saith bydd yn stopio’r aberthau a’r offrymau. Yna ar yr adain bydd yn codi eilun ffiaidd sy’n dinistrio, nes i’r dinistr sydd wedi’i ddyfarnu ddod ar yr un sy’n dinistrio.”
Daniel 9:26-27 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac ar ôl y ddwy wythnos a thrigain fe leddir yr un eneiniog heb neb o'i du, a difethir y ddinas a'r cysegr gan filwyr tywysog sydd i ddod. Bydd yn gorffen mewn llifeiriant, gyda rhyfel yn peri anghyfanedd-dra hyd y diwedd. Fe wna gyfamod cadarn â llawer am un wythnos, ac am hanner yr wythnos rhydd derfyn ar aberth ac offrwm. Ac yn sgîl y ffieiddbeth daw anrheithiwr, a erys hyd y diwedd, pan dywelltir ar yr anrheithiwr yr hyn a ddywedwyd.”
Daniel 9:26-27 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi dwy wythnos a thrigain y lleddir y Meseia, ond nid o’i achos ei hun: a phobl y tywysog yr hwn a ddaw a ddinistria y ddinas a’r cysegr; a’i ddiwedd fydd trwy lifeiriant, a hyd ddiwedd y rhyfel y bydd dinistr anrheithiol. Ac efe a sicrha y cyfamod â llawer dros un wythnos: ac yn hanner yr wythnos y gwna efe i’r aberth a’r bwyd-offrwm beidio; a thrwy luoedd ffiaidd yr anrheithia efe hi, hyd oni thywallter y diben terfynedig ar yr anrheithiedig.