Pregethwr 3:1-4
Pregethwr 3:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae tymor i bob peth, ac amser i bob gorchwyl dan y nef: amser i eni, ac amser i farw, amser i blannu, ac amser i ddiwreiddio'r hyn a blannwyd; amser i ladd, ac amser i iacháu, amser i dynnu i lawr, ac amser i adeiladu; amser i wylo, ac amser i chwerthin, amser i alaru, ac amser i ddawnsio
Pregethwr 3:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae amser wedi’i bennu i bopeth, amser penodol i bopeth sy’n digwydd yn y byd: amser i gael eich geni ac amser i farw, amser i blannu ac amser i godi beth blannwyd; amser i ladd ac amser i iacháu, amser i chwalu rhywbeth ac amser i adeiladu; amser i wylo ac amser i chwerthin, amser i alaru ac amser i ddawnsio
Pregethwr 3:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y mae amser i bob peth, ac amser i bob amcan dan y nefoedd: Amser i eni, ac amser i farw; amser i blannu, ac amser i dynnu y peth a blannwyd; Amser i ladd, ac amser i iacháu; amser i fwrw i lawr, ac amser i adeiladu; Amser i wylo, ac amser i chwerthin; amser i alaru, ac amser i ddawnsio