Effesiaid 1:17-21
Effesiaid 1:17-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A'm gweddi yw, ar i Dduw ein Harglwydd Iesu Grist, Tad y gogoniant, roi i chwi, yn eich adnabyddiaeth ohono ef, yr Ysbryd sy'n rhoi doethineb a datguddiad. Bydded iddo oleuo llygaid eich deall, a'ch dwyn i wybod beth yw'r gobaith sy'n ymhlyg yn ei alwad, beth yw cyfoeth y gogoniant sydd ar gael yn yr etifeddiaeth y mae'n ei rhoi i chwi ymhlith y saint, a beth yw aruthrol fawredd y gallu sydd ganddo o'n plaid ni sy'n credu, y grymuster hwnnw a gyflawnodd yng ngrym ei nerth yng Nghrist pan gyfododd ef oddi wrth y meirw, a'i osod i eistedd ar ei ddeheulaw yn y nefolion leoedd, ymhell uwchlaw pob tywysogaeth ac awdurdod a gallu ac arglwyddiaeth, a phob teitl a geir, nid yn unig yn yr oes bresennol, ond hefyd yn yr oes sydd i ddod.
Effesiaid 1:17-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i’n gofyn i Dduw, Tad bendigedig ein Harglwydd Iesu Grist, roi’r Ysbryd i chi i’ch goleuo a’ch gwneud yn ddoeth, er mwyn i chi ddod i’w nabod yn well. Dw i’n gweddïo y daw’r cwbl yn olau i chi. Dw i eisiau i chi ddod i weld yn glir a deall yn union beth ydy’r gobaith sydd ganddo ar eich cyfer, a gweld mor wych ydy’r lle bendigedig sydd ganddo i’w bobl. Dw i hefyd am i chi sylweddoli mor anhygoel ydy’r nerth sydd ar gael i ni sy’n credu. Dyma’r pŵer aruthrol wnaeth godi’r Meseia yn ôl yn fyw a’i osod i eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw yn y byd nefol. Mae’n llawer uwch nag unrhyw un arall sy’n teyrnasu neu’n llywodraethu, ac unrhyw rym neu awdurdod arall sy’n bod. Does gan neb na dim deitl tebyg iddo – yn y byd yma na’r byd sydd i ddod!
Effesiaid 1:17-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ar i Dduw ein Harglwydd Iesu Grist, Tad y gogoniant, roddi i chwi Ysbryd doethineb a datguddiad, trwy ei adnabod ef: Wedi goleuo llygaid eich meddyliau; fel y gwypoch beth yw gobaith ei alwedigaeth ef, a pheth yw golud gogoniant ei etifeddiaeth ef yn y saint, A pheth yw rhagorol fawredd ei nerth ef tuag atom ni y rhai ŷm yn credu, yn ôl gweithrediad nerth ei gadernid ef; Yr hon a weithredodd efe yng Nghrist, pan ei cyfododd ef o feirw, ac a’i gosododd i eistedd ar ei ddeheulaw ei hun yn y nefolion leoedd, Goruwch pob tywysogaeth, ac awdurdod, a gallu, ac arglwyddiaeth, a phob enw a enwir, nid yn unig yn y byd hwn, ond hefyd yn yr hwn a ddaw