Effesiaid 4:14-15
Effesiaid 4:14-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dim plantos bach fyddwn ni, yn cael ein taflu yn ôl ac ymlaen gan y tonnau, a’n chwythu yma ac acw gan bob awel sy’n dod heibio. Fyddwn ni ddim yn newid ein meddyliau bob tro mae rhywun yn dweud rhywbeth newydd, neu’n cael ein twyllo gan bobl slei sy’n gwneud i gelwydd swnio fel petai’n wir. Na, wrth gyhoeddi beth sy’n wir mewn cariad, byddwn ni’n tyfu’n debycach bob dydd i’r Pen, sef y Meseia.
Effesiaid 4:14-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Nid ydym i fod yn fabanod mwyach, yn cael ein lluchio gan donnau a'n gyrru yma a thraw gan bob rhyw awel o athrawiaeth, wedi ein dal gan ystryw y rhai sy'n ddyfeisgar i gynllwynio twyll. Na, gadewch i ni ddilyn y gwir mewn cariad, a thyfu ym mhob peth i Grist. Ef yw'r pen
Effesiaid 4:14-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fel na byddom mwyach yn blantos, yn bwhwman, ac yn ein cylcharwain â phob awel dysgeidiaeth, trwy hoced dynion, trwy gyfrwystra i gynllwyn i dwyllo: Eithr, gan fod yn gywir mewn cariad, cynyddu ohonom iddo ef ym mhob peth, yr hwn yw’r pen, sef Crist