Effesiaid 4:20-24
Effesiaid 4:20-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dim felly dych chi wedi dysgu byw wrth edrych ar y Meseia – os mai fe ydy’r un dych chi wedi’ch dysgu i’w ddilyn. Yn Iesu mae dod o hyd i’r gwir. Felly rhaid i chi gael gwared â’r hen ffordd o wneud pethau – y bywyd sydd wedi’i lygru gan chwantau twyllodrus. Rhaid i chi feithrin ffordd newydd o feddwl. Mae fel gwisgo natur o fath newydd – natur sydd wedi’i fodelu ar gymeriad Duw ei hun, yn gyfiawn a glân.
Effesiaid 4:20-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond nid felly yr ydych chwi wedi dysgu Crist, chwi sydd, yn wir, wedi clywed amdano ac wedi eich hyfforddi ynddo, yn union fel y mae'r gwirionedd yn Iesu. Fe'ch dysgwyd eich bod i roi heibio'r hen natur ddynol oedd yn perthyn i'ch ymarweddiad gynt ac sy'n cael ei llygru gan chwantau twyllodrus, a'ch bod i gael eich adnewyddu mewn ysbryd a meddwl, a gwisgo amdanoch y natur ddynol newydd sydd wedi ei chreu ar ddelw Duw, yn y cyfiawnder a'r sancteiddrwydd sy'n gweddu i'r gwirionedd.
Effesiaid 4:20-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr chwychwi, nid felly y dysgasoch Grist; Os bu i chwi ei glywed ef, ac os dysgwyd chwi ynddo, megis y mae’r gwirionedd yn yr Iesu: Dodi ohonoch heibio, o ran yr ymarweddiad cyntaf, yr hen ddyn, yr hwn sydd lygredig yn ôl y chwantau twyllodrus; Ac ymadnewyddu yn ysbryd eich meddwl; A gwisgo’r dyn newydd, yr hwn yn ôl Duw a grewyd mewn cyfiawnder a gwir sancteiddrwydd.