Esther 2:15
Esther 2:15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan ddaeth tro Esther i fynd at y brenin, aeth hi a dim gyda hi ond beth oedd Hegai, oedd yn gofalu am y merched, wedi’i awgrymu iddi. Roedd pawb welodd hi yn meddwl ei bod hi’n hynod o hardd.
Esther 2:15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan ddaeth tro Esther, y ferch a fabwysiadwyd gan Mordecai am ei bod yn ferch i'w ewythr Abihail, i fynd i mewn at y brenin, ni ofynnodd hi am ddim ond yr hyn a awgrymodd Hegai, eunuch y brenin a cheidwad y gwragedd; ac yr oedd Esther yn cael ffafr yng ngolwg pawb a'i gwelai.
Esther 2:15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan ddigwyddodd amser Esther, merch Abihail ewythr Mordecai, yr hon a gymerasai efe yn ferch iddo, i fyned i mewn at y brenin, ni cheisiodd hi ddim ond yr hyn a ddywedasai Hegai, ystafellydd y brenin, ceidwad y gwragedd: ac Esther oedd yn cael ffafr yng ngolwg pawb a’r oedd yn edrych arni.