Logo Ap Beibl
Eicon Chwilio

Esther 2:5-8 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Esther 2:5-8 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Roedd yna Iddew o’r enw Mordecai yn byw yn Shwshan. Roedd yn perthyn i lwyth Benjamin, ac yn fab i Jair (mab Shimei ac ŵyr i Cish, oedd yn un o’r grŵp o bobl wnaeth Nebwchadnesar, brenin Babilon, eu cymryd yn gaeth o Jerwsalem gyda Jehoiachin, brenin Jwda). Roedd Mordecai wedi magu ei gyfnither, Hadassa (sef Esther). Roedd ei thad a’i mam wedi marw, ac roedd Mordecai wedi’i mabwysiadu a’i magu fel petai’n ferch iddo fe ei hun. Roedd hi wedi tyfu’n ferch ifanc siapus a hynod o ddeniadol. Pan roddodd y Brenin Ahasferus y gorchymyn i edrych am ferched hardd iddo, cafodd llawer iawn o ferched ifanc eu cymryd i gaer Shwshan, ac roedd Esther yn un ohonyn nhw. Cafodd hi a’r merched eraill eu cymryd i’r palas brenhinol, a’u rhoi dan ofal Hegai.

Esther 2:5-8 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Yr oedd Iddew yn byw yn Susan y brifddinas o'r enw Mordecai fab Jair, fab Simei, fab Cis, gŵr o Benjamin. Yr oedd wedi ei gymryd o Jerwsalem i'r gaethglud gyda Jechoneia brenin Jwda, a gaethgludwyd gan Nebuchadnesar brenin Babilon. Yr oedd ef wedi mabwysiadu ei gyfnither Hadassa, sef Esther, am ei bod yn amddifad. Yr oedd hi'n ferch deg a phrydferth; a phan fu farw ei thad a'i mam, mabwysiadodd Mordecai hi'n ferch iddo'i hun. Pan gyhoeddwyd gair a gorchymyn y brenin a chasglu llawer o ferched ifainc i'r palas yn Susan o dan ofal Hegai, daethpwyd ag Esther i dŷ'r brenin a oedd yng ngofal Hegai, ceidwad y gwragedd.

Esther 2:5-8 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Yn Susan y brenhinllys yr oedd rhyw Iddew a’i enw Mordecai, mab Jair, fab Simei, fab Cis, gŵr o Jemini: Yr hwn a ddygasid o Jerwsalem gyda’r gaethglud a gaethgludasid gyd â Jechoneia brenin Jwda, yr hwn a ddarfuasai i Nebuchodonosor brenin Babilon ei gaethgludo. Ac efe a fagasai Hadassa, honno yw Esther, merch ei ewythr ef frawd ei dad; canys nid oedd iddi dad na mam: a’r llances oedd weddeiddlwys, a glân yr olwg; a phan fuasai ei thad a’i mam hi farw, Mordecai a’i cymerasai hi yn ferch iddo. A phan gyhoeddwyd gair y brenin a’i gyfraith, pan gasglasid hefyd lancesau lawer i Susan y brenhinllys dan law Hegai, cymerwyd Esther i dŷ y brenin, dan law Hegai ceidwad y gwragedd.