Esther 3:6
Esther 3:6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wedi clywed i ba genedl yr oedd Mordecai yn perthyn, nid oedd yn fodlon ymosod ar Mordecai yn unig, ond yr oedd yn awyddus i ddifa cenedl Mordecai, sef yr holl Iddewon yn nheyrnas Ahasferus.
Rhanna
Darllen Esther 3Esther 3:6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Doedd delio gyda Mordecai ei hun ddim yn ddigon ganddo. Felly pan ddaeth i ddeall fod Mordecai yn Iddew, dyma Haman yn penderfynu lladd pob Iddew drwy deyrnas Ahasferus i gyd.
Rhanna
Darllen Esther 3Esther 3:6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Er hynny diystyr oedd ganddo yn ei olwg ei hun estyn llaw yn erbyn Mordecai ei hunan; canys mynegasant iddo bobl Mordecai: am hynny Haman a geisiodd ddifetha yr holl Iddewon, y rhai oedd trwy holl frenhiniaeth Ahasferus, sef pobl Mordecai.
Rhanna
Darllen Esther 3