Esther 4:13-14
Esther 4:13-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
dyma Mordecai yn anfon yr ateb yma yn ôl: “Paid meddwl am funud y byddi di’n osgoi cael dy ladd fel pob Iddew arall am dy fod ti’n byw yn y palas. Os byddi di’n gwrthod dweud dim yr adeg yma, bydd rhywbeth yn digwydd o gyfeiriad arall i achub ac amddiffyn yr Iddewon, ond byddi di a theulu dy dad yn marw. Pwy ŵyr? Falle mai dyma’n union pam wyt ti wedi dod yn rhan o’r teulu brenhinol ar yr adeg yma!”
Esther 4:13-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
dywedodd wrthynt am ei hateb fel hyn, “Paid â meddwl y cei di yn unig o'r holl Iddewon dy arbed, am dy fod yn byw yn nhŷ'r brenin. Os byddi'n gwrthod siarad yn awr, daw ymwared a chymorth i'r Iddewon o le arall, ond byddi di a thŷ dy dad yn trengi. Pwy a ŵyr nad ar gyfer y fath amser â hwn y daethost i'r frenhiniaeth?”
Esther 4:13-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna Mordecai a ddywedodd am iddynt ateb Esther, Na feddwl yn dy galon y dihengi yn nhŷ y brenin rhagor yr holl Iddewon. Oherwydd os tewi â sôn a wnei di y pryd hwn, esmwythdra ac ymwared a gyfyd i’r Iddewon o le arall, tithau a thŷ dy dad a gyfrgollir: a phwy sydd yn gwybod ai oherwydd y fath amser â hwn y daethost ti i’r frenhiniaeth?