Esther 4:16
Esther 4:16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Wnei di gasglu’r Iddewon sy’n byw yn Shwshan at ei gilydd a’u cael nhw i ymprydio drosto i? Peidiwch bwyta nac yfed am dri diwrnod, ddydd na nos. Bydda i a’r morynion sydd gen i yn ymprydio hefyd. Wedyn gwna i fynd i weld y brenin, er fod hynny’n golygu torri’r gyfraith. Dw i’n barod i farw os oes rhaid.”
Esther 4:16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Dos i gasglu ynghyd yr holl Iddewon sy'n byw yn Susan, ac ymprydiwch drosof; peidiwch â bwyta nac yfed, ddydd na nos, am dridiau, ac fe wnaf finnau a'm morynion yr un fath. Yna af at y brenin, er fy mod yn torri'r gyfraith; ac os trengaf, mi drengaf.”
Esther 4:16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Dos, a chasgl yr holl Iddewon a gaffer yn Susan, ac ymprydiwch drosof fi, na fwytewch hefyd ac nac yfwch dros dridiau, nos na dydd: a minnau a’m llancesau a ymprydiaf felly: ac felly yr af i mewn at y brenin, yr hwn beth nid yw gyfreithlon: ac o derfydd amdanaf, darfydded.