Esther 6:1-2
Esther 6:1-2 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Y noson honno roedd y brenin yn methu cysgu. Felly dyma fe’n galw am y sgrôl oedd â hanes digwyddiadau pwysig yr Ymerodraeth ynddi, a chafodd ei darllen iddo. A dyma nhw’n dod at y cofnod fod Mordecai wedi rhoi gwybod am y cynllwyn i ladd y Brenin Ahasferus, gan y ddau was oedd yn gwarchod drws ystafell y brenin, sef Bigthan a Teresh.
Esther 6:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y noson honno yr oedd y brenin yn methu cysgu, a gorchmynnodd iddynt ddod â llyfr y cofiadur, sef y cronicl, ac fe'i darllenwyd iddo. Ynddo cofnodwyd yr hyn a ddywedodd Mordecai am Bigthana a Theres, dau eunuch y brenin oedd yn gofalu am y porth ac oedd wedi cynllwyn i ymosod ar y brenin.
Esther 6:1-2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y noson honno cwsg y brenin a giliodd ymaith; am hynny efe a archodd ddwyn llyfr coffadwriaethau hanesion yr amseroedd; a darllenwyd hwynt gerbron y brenin. Yna y cafwyd yn ysgrifenedig yr hyn a fynegasai Mordecai am Bigthana a Theres, dau o ystafellyddion y brenin, o’r rhai oedd yn cadw y trothwy; sef y rhai a geisiasent estyn llaw yn erbyn y brenin Ahasferus.