Exodus 16:2-3
Exodus 16:2-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dechreuodd holl gynulliad pobl Israel rwgnach yn erbyn Moses ac Aaron yn yr anialwch, a dweud wrthynt, “O na fyddai'r ARGLWYDD wedi gadael inni farw yng ngwlad yr Aifft, lle'r oeddem yn cael eistedd wrth y crochanau cig a bwyta ein gwala o fwyd; ond yr ydych chwi wedi ein harwain allan yma i'r anialwch er mwyn lladd y dyrfa hon i gyd â newyn.”
Exodus 16:2-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan oedden nhw yn yr anialwch, dyma nhw i gyd yn dechrau ymosod ar Moses ac Aaron unwaith eto. “Byddai’n well petai’r ARGLWYDD wedi gadael i ni farw yn yr Aifft! O leia roedd gynnon ni ddigon o gig a bwyd i’w fwyta yno. Ond rwyt ti wedi dod â ni i gyd allan i’r anialwch yma i lwgu i farwolaeth!”
Exodus 16:2-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A holl gynulleidfa meibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses ac Aaron yn yr anialwch. A meibion Israel a ddywedasant wrthynt, O na buasem feirw trwy law yr ARGLWYDD yng ngwlad yr Aifft, pan oeddem yn eistedd wrth y crochanau cig, ac yn bwyta bara ein gwala: ond chwi a’n dygasoch ni allan i’r anialwch hwn, i ladd yr holl dyrfa hon â newyn.