Exodus 33:1-3
Exodus 33:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dos gyda'r bobl a ddygaist allan o wlad yr Aifft, ac ewch i fyny oddi yma i'r wlad y tyngais wrth Abraham, Isaac a Jacob ei rhoi i'th ddisgynyddion. Anfonaf angel o'th flaen, a gyrraf allan y Canaaneaid, Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid. Dos i wlad yn llifeirio o laeth a mêl, ond ni fyddaf fi'n mynd i fyny gyda thi, rhag i mi dy ddifa ar y ffordd; oherwydd pobl wargaled ydych.”
Exodus 33:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dos di yn dy flaen – ti a’r bobl wnest ti eu harwain allan o wlad yr Aifft. Ewch i’r wlad wnes i addo i Abraham, Isaac a Jacob, ‘Dw i’n mynd i’w rhoi hi i’ch disgynyddion chi.’ Dw i’n mynd i anfon angel o’ch blaen chi, a gyrru allan y Canaaneaid, Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid. Mae’n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo. Ond dw i ddim am fynd gyda chi. Dych chi’n bobl ystyfnig, a falle y bydda i’n eich dinistrio chi ar y ffordd.”
Exodus 33:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Cerdda, dos i fyny oddi yma, ti a’r bobl a ddygaist i fyny o wlad yr Aifft, i’r wlad am yr hon y tyngais wrth Abraham, Isaac, a Jacob, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddaf hi. A mi a anfonaf angel o’th flaen di; ac a yrraf allan y Canaanead, yr Amoriad, a’r Hethiad, y Pheresiad, yr Hefiad, a’r Jebusiad: I wlad yn llifeirio o laeth a mêl: oherwydd nid af fi i fyny yn dy blith; oblegid pobl wargaled wyt: rhag i mi dy ddifa ar y ffordd.