Eseciel 32:30 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Eseciel 32:30 BNET (beibl.net 2015, 2024)
“Mae arweinwyr gwledydd y gogledd yno i gyd, a’r Sidoniaid. Y rhai oedd yn codi dychryn bellach yn gorwedd mewn cywilydd gyda’r meirw – gyda’r paganiaid eraill gafodd eu lladd â’r cleddyf. Maen nhw’n gorwedd mewn cywilydd gyda phawb arall sy’n disgyn i’r Pwll.
Eseciel 32:30 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae holl dywysogion y gogledd a'r holl Sidoniaid yno; aethant i lawr mewn gwarth gyda'r lladdedigion, er gwaetha'r braw a achosodd eu cryfder; y maent yn gorwedd yn ddienwaededig gyda'r rhai a laddwyd â'r cleddyf, ac yn dwyn eu gwarth gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll.
Eseciel 32:30 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yno y mae holl dywysogion y gogledd, a’r holl Sidoniaid, y rhai a ddisgynnant gyda’r lladdedigion; gyda’u harswyd y cywilyddiant am eu cadernid; gorweddant hefyd yn ddienwaededig gyda’r rhai a laddwyd â’r cleddyf, ac a ddygant eu gwaradwydd gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll.